Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 30:6-18 beibl.net 2015 (BNET)

6. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich newid chi o'r tu mewn, i'ch gwneud chi a'ch disgynyddion yn bobl go iawn iddo. Byddwch yn ei garu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid, ac yn cael bywyd!

7. “Ond bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn melltithio eich gelynion – y bobl hynny sy'n eich casáu chi ac yn eich erlid chi.

8. Bydd yn ddechrau newydd i chi! Byddwch yn gwrando ar yr ARGLWYDD, ac yn cadw'r gorchmynion dw i wedi eu rhoi i chi heddiw.

9. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud i bopeth wnewch chi lwyddo. Byddwch chi'n cael lot o blant, bydd eich anifeiliaid yn cael rhai bach, a bydd cynnyrch y tir yn llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw wrth ei fodd gyda chi, ac yn gwneud i chi lwyddo, fel roedd e wrth ei fodd gyda'ch hynafiaid chi,

10. dim ond i chi fod yn ufudd iddo, a chadw'r gorchmynion a'r rheolau sydd wedi eu hysgrifennu yn sgrôl y Gyfraith yma. Ond rhaid i chi droi ato â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.

11. “Dydy beth dw i'n ei orchymyn i chi heddiw ddim yn anodd i'w ddeall, nag yn amhosib i'w gyrraedd.

12. Dydy e ddim yn y nefoedd, fel bod rhaid i rywun ofyn, ‘Pwy wnaiff fynd i fyny i'r nefoedd i'w gael i ni, a'i gyhoeddi er mwyn i ni wneud beth mae'n ddweud?’

13. A dydy e ddim ym mhen draw'r byd, fel bod rhaid gofyn, ‘Pwy wnaiff fynd dros y môr i'w gael i ni, a'i gyhoeddi i ni er mwyn i ni wneud beth mae'n ddweud?’

14. Mae'r gorchmynion gen ti wrth law; ti'n eu deall ac yn gallu eu dyfynnu ar y cof. Felly gwna beth maen nhw'n ddweud.

15. “Edrychwch! Dw i wedi rhoi dewis i chi heddiw – bywyd a llwyddiant, neu farwolaeth a dinistr.

16. Beth dw i'n ei orchymyn i chi ydy i chi garu'r ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e eisiau i chi fyw, a chadw ei orchmynion, ei reolau, a'i ganllawiau. Wedyn byddwch chi'n byw ac yn llwyddo, a bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio yn y wlad dych chi ar fin ei chymryd.

17. “Ond os byddwch chi'n troi oddi wrtho a gwrthod gwrando arno, ac yn cael eich denu i'w haddoli nhw,

18. dw i'n eich rhybuddio chi, byddwch chi'n cael eich dinistrio! Gewch chi ddim aros yn hir iawn yn y wlad dych chi'n croesi'r afon Iorddonen i'w chymryd.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 30