Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 29:23-29 beibl.net 2015 (BNET)

23. Bydd y tir i gyd wedi ei ddifetha gan frwmstan a halen, sbwriel yn llosgi. Fydd dim yn cael ei blannu a fydd dim yn tyfu arno. Bydd fel dinistr Sodom a Gomorra, Adma a Seboïm, gafodd eu dinistrio gan yr ARGLWYDD pan oedd e'n ddig.

24. A bydd y cenhedloedd i gyd yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i'r wlad yma? Pam oedd e wedi gwylltio cymaint?’

25. A bydd pobl yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, pan ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft.

26. Roedden nhw wedi troi i addoli duwiau eraill – eilun-dduwiau oedden nhw'n gwybod dim amdanyn nhw, a ddim i fod i'w haddoli nhw.

27. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a dyna pam wnaethon nhw ddioddef yr holl felltithion mae'r sgrôl yma'n sôn amdanyn nhw.

28. Dyma'r ARGLWYDD yn eu diwreiddio nhw, a'i gyrru i wlad arall. Roedd yn flin, ac wedi digio'n lân gyda nhw.’

29. “Mae yna rai pethau, dim ond yr ARGLWYDD sy'n gwybod amdanyn nhw; ond mae pethau eraill sydd wedi eu datguddio i ni a'n disgynyddion, er mwyn i ni bob amser wneud beth mae'r gyfraith yn ei ddweud.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 29