Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 28:60-68 beibl.net 2015 (BNET)

60. Byddwch yn dal yr heintiau ofnadwy wnaeth daro'r Aifft, a fydd dim iachâd.

61. Bydd yr ARGLWYDD yn eich taro chi gyda pob math o afiechydon does dim sôn amdanyn nhw yn sgrôl y Gyfraith, nes byddwch chi wedi'ch dinistrio'n llwyr yn y diwedd.

62. Ar un adeg roedd cymaint ohonoch chi ac sydd o sêr yn yr awyr, ond fydd bron neb ar ôl, am eich bod wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw.

63. “Dyma beth fydd yn digwydd: Yn union fel roedd yr ARGLWYDD wrth ei fodd yn gwneud i chi lwyddo a lluosogi, bydd wrth ei fodd yn eich dinistrio a'ch difetha chi. Byddwch yn cael eich symud o'r wlad dych chi ar fin ei chymryd drosodd.

64. Bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd, a bydd rhaid i chi addoli eilun-dduwiau o bren a charreg – duwiau dych chi a'ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw.

65. Fyddwch chi'n cael dim llonydd na gorffwys yn y gwledydd hynny. Bydd yr ARGLWYDD yn eich gwneud chi'n anesmwyth, yn ddigalon a diobaith.

66. Bydd eich bywyd yn y fantol. Nos a dydd byddwch ofn marw, heb sicrwydd y byddwch chi'n dal yn fyw y diwrnod wedyn.

67. Bydd amser yn llusgo, a fyddwch chi byth yn hapus – bydd y pethau gwaethaf allwch chi eu dychmygu yn digwydd i chi!

68. Bydd yr ARGLWYDD yn eich rhoi chi ar long, a'ch gyrru chi yn ôl i'r Aifft ar hyd llwybr roeddwn i wedi dweud fyddech chi byth yn ei weld eto. Yno byddwch yn ceisio gwerthu eich hunain yn gaethweision a caethferched i'ch gelynion, ond fydd neb eisiau eich prynu chi.”

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 28