Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 28:6-14 beibl.net 2015 (BNET)

6. Cewch eich bendithio ble bynnag ewch chi.

7. Bydd yr ARGLWYDD yn achosi i'r gelynion sy'n ymosod arnoch chi gael eu taro i lawr o flaen eich llygaid! Byddan nhw'n ymosod arnoch chi o un cyfeiriad, ond yn dianc i bob cyfeiriad!

8. Bydd yr ARGLWYDD yn llenwi eich ysguboriau chi, ac yn bendithio popeth wnewch chi – ydy, mae e'n mynd i'ch bendithio chi yn y wlad mae'n ei rhoi i chi.

9. Bydd yr ARGLWYDD yn cadarnhau mai chi ydy'r bobl mae e wedi eu cysegru iddo'i hun, fel gwnaeth e addo, os gwnewch chi wneud beth mae e'n ddweud a byw fel mae e eisiau.

10. Wedyn bydd pawb drwy'r byd i gyd yn gwybod mai chi ydy pobl yr ARGLWYDD, a byddan nhw'n eich parchu chi.

11. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi lwyddo bob ffordd – cewch lot o blant, bydd eich anifeiliaid yn cael lot o rai bach, a bydd eich cnydau'n llwyddo yn y wlad wnaeth e addo i'ch hynafiaid y byddai'n ei rhoi i chi.

12. Bydd yr ARGLWYDD yn agor ei stordai yn yr awyr, ac yn rhoi glaw yn ei dymor i'r tir. Bydd yn bendithio popeth wnewch chi. Bydd gynnoch chi ddigon i'w fenthyg i genhedloedd eraill, ond fydd dim angen benthyg arnoch chi o gwbl.

13. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi arwain, ac nid dilyn. Byddwch chi ar y top, dim ar y gwaelod – dim ond i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n cadw ei orchmynion e, y rhai dw i'n eu rhoi i chi heddiw.

14. Ond rhaid i chi beidio crwydro o gwbl oddi wrth y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi, a peidio mynd i addoli duwiau eraill.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 28