Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 28:49-59 beibl.net 2015 (BNET)

49. “Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i bobl o wlad bell godi yn eich erbyn chi. Byddan nhw'n dod o ben draw'r byd ac yn plymio i lawr arnoch chi fel eryr. Fyddwch chi ddim yn deall eu hiaith nhw.

50. Pobl greulon, yn dangos dim parch at yr henoed, a dim trugaredd at bobl ifanc.

51. Byddan nhw'n dwyn eich anifeiliaid chi, a chnydau'r tir i gyd, nes byddwch chi wedi'ch dinistrio'n llwyr. Fydd gynnoch chi ddim ŷd, sudd grawnwin, olew olewydd, lloi nac ŵyn ar ôl.

52. Byddan nhw'n gwarchae ar giatiau eich trefi amddiffynnol chi ac ymosod ar y waliau uchel nes byddan nhw wedi syrthio – a chithau'n rhoi cymaint o ffydd yn y trefi yma! Byddan nhw'n gwarchae ar drefi drwy'r wlad i gyd

53. a'ch cau chi i mewn, a bydd pethau'n mynd mor ofnadwy byddwch chi'n bwyta eich plant – ie, bwyta cnawd eich meibion a'ch merched!

54-55. Bydd y dyn mwyaf tyner a charedig yn bwyta cnawd ei blant (am fod dim byd arall ar ôl i'w fwyta), a bydd e'n gwrthod rhannu gyda'i frawd, neu'r wraig mae'n ei charu, a'i blant eraill. Dyna i chi pa mor ddrwg fydd pethau pan fydd y gelyn yn gwarchae arnoch chi a'ch cau chi i mewn yn y trefi!

56-57. Bydd y wraig fwyaf addfwyn a charedig (sydd wedi cael bywyd braf, ac erioed wedi gorfod cerdded heb esgidiau), yn gwrthod rhannu gyda'r gŵr mae'n ei garu, a'i meibion a'i merched. Bydd canlyniadau'r gwarchae mor ofnadwy, bydd hi'n geni plentyn, ac yna'n dawel fach yn bwyta'r brych a'r plentyn. Dyna pa mor ddrwg fydd pethau pan fydd y gelyn yn gwarchae arnoch chi a'ch cau chi i mewn yn y trefi!

58. “Rhaid i chi wneud popeth mae'r gyfraith yn ei ddweud, sef beth sydd wedi ei ysgrifennu yn y sgrôl yma. A rhaid i chi barchu enw gwych a rhyfeddol yr ARGLWYDD eich Duw.

59. Os na wnewch chi, bydd e'n eich cosbi chi a'ch disgynyddion yn drwm – salwch tymor hir ac afiechydon marwol.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 28