38. Byddwch chi'n hau lot fawr o had, ond yn medi ychydig iawn. Bydd locustiaid yn ei ddifetha.
39. Byddwch yn plannu gwinllannoedd a gofalu amdanyn nhw, ond gewch chi ddim yfed y gwin na chasglu'r grawnwin. Bydd pryfed yn eu bwyta nhw!
40. Bydd coed olewydd drwy'r wlad i gyd, ond gewch chi ddim ei roi ar eich hwynebau. Bydd yr olewydd yn syrthio o'r coed cyn aeddfedu.
41. Byddwch yn magu plant – bechgyn a merched – ond yn eu colli nhw. Byddan nhw'n cael eu cymryd yn gaethion.
42. Bydd locustiaid swnllyd yn difetha'r coed a'r cnydau.
43. Bydd y bobl o'r tu allan sy'n byw gyda chi yn troi'n fwy cyfoethog ac yn llwyddo, a byddwch chi'n mynd yn is ac yn dlotach.
44. Byddan nhw'n benthyg i chi, ond fyddwch chi ddim yn benthyg iddyn nhw. Nhw fydd yn arwain a chi fydd yn dilyn!
45. “Bydd y melltithion yma i gyd yn dod arnoch chi. Fydd dim dianc, a byddwch yn cael eich dinistrio, am eich bod heb fod yn ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw, ac heb gadw'r gorchmynion a'r canllawiau roddodd e i chi.
46. Bydd y cwbl yn arwydd clir fydd yn gwneud i bobl ryfeddu atoch chi a'ch disgynyddion.
47. “Wnaethoch chi ddim defnyddio'r digonedd oedd gynnoch chi i wasanaethu'r ARGLWYDD eich Duw, a rhoi eich hunain yn llwyr i wneud hynny,
48. felly byddwch chi'n gwasanaethu'r gelynion wnaeth yr ARGLWYDD eu hanfon i ymosod arnoch chi. Byddwch chi'n dioddef o newyn a syched, yn noeth ac yn dlawd. Byddan nhw'n gosod iau haearn ar eich gwar, a gwneud i chi weithio mor galed bydd yn ddigon i'ch lladd chi!
49. “Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i bobl o wlad bell godi yn eich erbyn chi. Byddan nhw'n dod o ben draw'r byd ac yn plymio i lawr arnoch chi fel eryr. Fyddwch chi ddim yn deall eu hiaith nhw.