Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 28:24-36 beibl.net 2015 (BNET)

24. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud iddi lawio llwch a lludw. Bydd yn disgyn arnoch chi o'r awyr nes byddwch chi wedi'ch difa.

25. Bydd yr ARGLWYDD yn gadael i'ch gelynion eich trechu chi. Byddwch chi'n ymosod arnyn nhw o un cyfeiriad, ond yn gorfod dianc i bob cyfeiriad! Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn ddychryn i wledydd y byd i gyd.

26. Bydd eich cyrff marw yn fwyd i'r holl adar ac anifeiliaid gwylltion, a fydd yna neb ar ôl i'w dychryn nhw i ffwrdd.

27. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi ddioddef o'r chwyddau wnaeth daro pobl yr Aifft, briwiau cas, crach ar y croen, a'r cosi – a fydd dim gwella i chi.

28. Bydd yr ARGLWYDD yn achosi panig, a'ch gwneud yn ddall ac yn ddryslyd.

29. Byddwch chi'n ymbalfalu ganol dydd fel rhywun dall sydd yn y tywyllwch, a fydd dim fyddwch chi'n ei wneud yn llwyddo. Bydd pobloedd eraill yn eich cam-drin chi ac yn dwyn oddi arnoch chi o hyd, a fydd yna neb i'ch achub chi.

30. Bydd dyn wedi dyweddïo gyda merch, a bydd dyn arall yn ei threisio hi.Byddwch chi'n adeiladu tŷ ond ddim yn cael byw ynddo.Byddwch chi'n plannu gwinllan, ond ddim yn casglu ei ffrwyth.

31. Bydd eich ychen yn cael ei ladd o flaen eich llygaid, ond fyddwch chi ddim yn bwyta'r cig.Byddwch chi'n gwylio eich asyn yn cael ei ddwyn oddi arnoch chi, a fyddwch chi ddim yn ei gael yn ôl.Bydd eich praidd o ddefaid yn cael eu cymryd gan eich gelynion, a fydd yna neb i'ch achub chi.

32. Bydd eich meibion a'ch merched yn cael eu rhoi i bobl eraill o flaen eich llygaid. Byddwch chi'n edrych amdanyn nhw, ac yn gallu gwneud dim i ddod â nhw'n ôl.

33. Bydd pobl dych chi ddim yn eu nabod yn mwynhau cynnyrch eich tir a ffrwyth eich gwaith caled, a byddwch chi'n cael eich gorthrymu a'ch sathru dan draed am weddill eich bywydau.

34. Bydd gweld hyn yn eich gyrru chi'n wallgof!

35. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i'ch gliniau a'ch coesau chwyddo – byddwch chi mewn poen drosoch, o'r corun i'r sawdl.

36. Bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi, a'r brenin fyddwch chi wedi ei benodi drosoch, at bobl ydych chi a'ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw, ac yno byddwch chi'n addoli duwiau o bren a charreg.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 28