Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 28:12-22 beibl.net 2015 (BNET)

12. Bydd yr ARGLWYDD yn agor ei stordai yn yr awyr, ac yn rhoi glaw yn ei dymor i'r tir. Bydd yn bendithio popeth wnewch chi. Bydd gynnoch chi ddigon i'w fenthyg i genhedloedd eraill, ond fydd dim angen benthyg arnoch chi o gwbl.

13. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi arwain, ac nid dilyn. Byddwch chi ar y top, dim ar y gwaelod – dim ond i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n cadw ei orchmynion e, y rhai dw i'n eu rhoi i chi heddiw.

14. Ond rhaid i chi beidio crwydro o gwbl oddi wrth y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi, a peidio mynd i addoli duwiau eraill.

15. “Ond os byddwch chi'n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw, heb wneud yn siŵr eich bod chi'n cadw ei orchmynion a'i ganllawiau e, bydd llond gwlad o felltithion yn dod arnoch chi!

16. Cewch eich melltithio ble bynnag dych chi'n gweithio.

17. Fydd dim grawn yn eich basged, a dim bwyd ar eich bwrdd.

18. Bydd eich plant, a chynnyrch eich tir wedi eu melltithio – fydd eich gwartheg, defaid a geifr ddim yn cael rhai bach.

19. Cewch eich melltithio ble bynnag ewch chi.

20. Bydd yr ARGLWYDD yn melltithio, drysu a gwrthwynebu popeth wnewch chi, nes byddwch chi wedi'ch dinistrio ac wedi diflannu o achos yr holl ddrwg fyddwch chi'n ei wneud, ac am eich bod chi wedi troi cefn arna i.

21. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi ddal heintiau marwol, nes bydd e wedi cael gwared â chi'n llwyr o'r tir dych chi ar fin ei gymryd drosodd.

22. Byddwch yn dioddef o afiechydon ellir mo'i gwella, gwres uchel, llid, heintiau, sychder, cnydau wedi eu difetha gan ormod o wres neu ormod o law. Fyddan nhw ddim yn stopio nes byddwch chi wedi diflannu.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 28