1. “Os byddwch chi wir yn ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw, a gwneud yn siŵr eich bod chi'n cadw'r gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw, bydd e'n eich gwneud chi'n fwy enwog na'r cenhedloedd eraill i gyd.
2. Byddwch yn derbyn llond gwlad o fendithion os byddwch chi'n ufudd iddo:
3. Cewch eich bendithio ble bynnag dych chi'n gweithio.
4. Bydd bendith ar eich plant, ar gynnyrch eich tir, ac ar eich anifeiliaid i gyd – bydd eich gwartheg, defaid a geifr yn cael lot o rai bach.
5. Bydd digon o rawn yn eich basged, a digon o fwyd ar eich bwrdd.
6. Cewch eich bendithio ble bynnag ewch chi.
7. Bydd yr ARGLWYDD yn achosi i'r gelynion sy'n ymosod arnoch chi gael eu taro i lawr o flaen eich llygaid! Byddan nhw'n ymosod arnoch chi o un cyfeiriad, ond yn dianc i bob cyfeiriad!
8. Bydd yr ARGLWYDD yn llenwi eich ysguboriau chi, ac yn bendithio popeth wnewch chi – ydy, mae e'n mynd i'ch bendithio chi yn y wlad mae'n ei rhoi i chi.
9. Bydd yr ARGLWYDD yn cadarnhau mai chi ydy'r bobl mae e wedi eu cysegru iddo'i hun, fel gwnaeth e addo, os gwnewch chi wneud beth mae e'n ddweud a byw fel mae e eisiau.
10. Wedyn bydd pawb drwy'r byd i gyd yn gwybod mai chi ydy pobl yr ARGLWYDD, a byddan nhw'n eich parchu chi.
11. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi lwyddo bob ffordd – cewch lot o blant, bydd eich anifeiliaid yn cael lot o rai bach, a bydd eich cnydau'n llwyddo yn y wlad wnaeth e addo i'ch hynafiaid y byddai'n ei rhoi i chi.