Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 27:6-22 beibl.net 2015 (BNET)

6. Defnyddiwch gerrig cyfan i adeiladu'r allor, yna cyflwyno offrymau arni – offrymau i'w llosgi'n llwyr i'r ARGLWYDD eich Duw.

7. Hefyd offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, a gallwch wledda a dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw.

8. Peidiwch anghofio ysgrifennu copi o'r gorchmynion yma ar y cerrig sy'n cael eu gosod i fyny, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw i'w gweld yn glir.”

9. Yna dyma Moses, gyda'r offeiriaid o lwyth Lefi, yn dweud wrth bobl Israel: “Distawrwydd! Gwrandwch arno i, bobl Israel. Heddiw dych chi wedi'ch gwneud yn bobl i'r ARGLWYDD.

10. Rhaid i chi wrando arno, a cadw'r rheolau a'r canllawiau dw i'n eu rhoi i chi.”

11. Yr un diwrnod dyma Moses yn gorchymyn i'r bobl:

12. “Ar ôl i chi groesi'r Afon Iorddonen, mae'r llwythau canlynol i sefyll ar Fynydd Gerisim a bendithio'r bobl: Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Joseff a Benjamin.

13. Yna mae'r llwythau eraill i sefyll ar Fynydd Ebal tra mae'r melltithion yn cael eu cyhoeddi: Reuben, Gad, Asher, Sabulon, Dan a Nafftali.

14. “Bydd y Lefiaid yn cyhoeddi'n uchel wrth bobl Israel:

15. ‘Melltith ar rywun sy'n cael crefftwr i gerfio delw, neu wneud eilun o fetel tawdd, ac yna'n ei osod i fyny i'w addoli (hyd yn oed o'r golwg) – mae peth felly yn hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

16. ‘Melltith ar rywun sy'n dangos dim parch at ei dad a'i fam.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

17. ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n symud terfyn i ddwyn tir oddi ar rywun arall.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

18. ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n dweud wrth rywun dall am fynd y ffordd rong.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

19. ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n gwrthod cyfiawnder i fewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

20. ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda gwraig ei dad. Byddai hynny'n amharchu ei dad.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

21. ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gydag anifail.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

22. ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i chwaer – merch i'w dad neu ei fam.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 27