Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 27:2-15 beibl.net 2015 (BNET)

2. Pan fyddwch chi'n croesi'r Afon Iorddonen i'r wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi, rhaid i chi godi cerrig mawr ac yna rhoi plastr drostyn nhw.

3. Yna ysgrifennu copi o'r gorchmynion yma arnyn nhw. Wedyn gallwch fynd i mewn i'r wlad – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo, fel gwnaeth yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ddweud wrthoch chi.

4. Mae'r cerrig yma gyda plastr drostyn nhw i gael eu codi ar Fynydd Ebal.

5. Yna dylech adeiladu allor yno i'r ARGLWYDD eich Duw – allor o gerrig sydd heb eu naddu gydag offer haearn.

6. Defnyddiwch gerrig cyfan i adeiladu'r allor, yna cyflwyno offrymau arni – offrymau i'w llosgi'n llwyr i'r ARGLWYDD eich Duw.

7. Hefyd offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, a gallwch wledda a dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw.

8. Peidiwch anghofio ysgrifennu copi o'r gorchmynion yma ar y cerrig sy'n cael eu gosod i fyny, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw i'w gweld yn glir.”

9. Yna dyma Moses, gyda'r offeiriaid o lwyth Lefi, yn dweud wrth bobl Israel: “Distawrwydd! Gwrandwch arno i, bobl Israel. Heddiw dych chi wedi'ch gwneud yn bobl i'r ARGLWYDD.

10. Rhaid i chi wrando arno, a cadw'r rheolau a'r canllawiau dw i'n eu rhoi i chi.”

11. Yr un diwrnod dyma Moses yn gorchymyn i'r bobl:

12. “Ar ôl i chi groesi'r Afon Iorddonen, mae'r llwythau canlynol i sefyll ar Fynydd Gerisim a bendithio'r bobl: Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Joseff a Benjamin.

13. Yna mae'r llwythau eraill i sefyll ar Fynydd Ebal tra mae'r melltithion yn cael eu cyhoeddi: Reuben, Gad, Asher, Sabulon, Dan a Nafftali.

14. “Bydd y Lefiaid yn cyhoeddi'n uchel wrth bobl Israel:

15. ‘Melltith ar rywun sy'n cael crefftwr i gerfio delw, neu wneud eilun o fetel tawdd, ac yna'n ei osod i fyny i'w addoli (hyd yn oed o'r golwg) – mae peth felly yn hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 27