Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 27:16-26 beibl.net 2015 (BNET)

16. ‘Melltith ar rywun sy'n dangos dim parch at ei dad a'i fam.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

17. ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n symud terfyn i ddwyn tir oddi ar rywun arall.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

18. ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n dweud wrth rywun dall am fynd y ffordd rong.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

19. ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n gwrthod cyfiawnder i fewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

20. ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda gwraig ei dad. Byddai hynny'n amharchu ei dad.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

21. ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gydag anifail.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

22. ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i chwaer – merch i'w dad neu ei fam.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

23. ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i fam-yng-nghyfraith.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

24. ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n llofruddio rhywun arall.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

25. ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n derbyn tâl i lofruddio rhywun diniwed.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

26. ‘Melltith ar bawb sydd ddim yn gwneud pob peth mae'r gyfraith yma'n ei ddweud.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 27