Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 26:7-19 beibl.net 2015 (BNET)

7. Felly dyma ni'n galw ar yr ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, am help. Clywodd ni'n galw, a gwelodd mor anodd oedd pethau arnon ni, a'r gwaith caled a'r gorthrwm.

8. Felly dyma'r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth rhyfeddol i ddod â ni allan o'r Aifft, a dychryn y bobl yno gyda'r gwyrthiau mwyaf syfrdanol.

9. Yna daeth â ni yma, a rhoi'r tir yma i ni. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo.

10. Felly, ARGLWYDD, edrych! Dw i wedi dod â ffrwyth cyntaf cynnyrch y tir wyt ti wedi ei roi i mi.’ Yna rwyt i'w adael o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw, a'i addoli e.

11. Wedyn gelli di a dy deulu, gyda'r Lefiaid a'r mewnfudwyr sydd gyda chi, ddathlu a mwynhau yr holl bethau da mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi eu rhoi i chi.

12. “Ar ôl casglu un rhan o ddeg o'ch cynnyrch yn y drydedd flwyddyn (blwyddyn y degwm), dych chi i'w roi i'r Lefiaid, mewnfudwyr, plant amddifad a'r gweddwon sy'n byw yn eich pentrefi chi, er mwyn iddyn nhw gael digon i'w fwyta.

13. Yna rwyt i ddweud wrth yr ARGLWYDD dy Dduw, ‘Dw i wedi casglu'r offrwm sydd i gael ei osod o'r neilltu, ac wedi ei roi i'r Lefiaid, mewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon, yn union fel rwyt ti wedi dweud wrtho i. Dw i ddim wedi torri nac anghofio dy reolau di.

14. Dw i ddim wedi bwyta peth ohono pan oeddwn i'n galaru, na'i gymryd pan oeddwn i'n aflan yn seremonïol, na cyflwyno peth ohono'n offrwm i'r meirw. Dw i wedi bod yn ufudd i ti, a gwneud popeth oeddet ti'n ddweud.

15. Edrych i lawr arnon ni o'r nefoedd, y lle sanctaidd ti'n byw ynddo, a bendithia dy bobl Israel, a'r tir wyt ti wedi ei roi i ni, fel gwnest ti addo i'n hynafiaid – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo!’

16. “Heddiw mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn i chi gadw'r rheolau a'r canllawiau yma, a gwneud hynny â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.

17. Heddiw dych chi wedi datgan mai'r ARGLWYDD ydy'ch Duw chi, ac y gwnewch chi fyw fel mae e eisiau i chi fyw, cadw ei reolau, ei orchmynion a'i ganllawiau, a gwrando arno.

18. Heddiw mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi mai chi ydy ei bobl e – ei drysor sbesial, fel gwnaeth e addo. Felly dylech gadw ei orchmynion e.

19. Duw sydd wedi gwneud y cenhedloedd, ond bydd yn eich gwneud chi'n fwy enwog na nhw i gyd. Bydd pobl yn eich canmol chi a'ch anrhydeddu chi. Fel gwnaeth e addo, byddwch chi'n bobl wedi eich cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw.”

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 26