Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 25:6-19 beibl.net 2015 (BNET)

6. Bydd y mab cyntaf i gael ei eni iddyn nhw yn cael ei gyfri'n fab cyfreithiol i'r brawd fuodd farw, rhag i'w enw ddiflannu o Israel.

7. Ond os ydy'r dyn ddim eisiau priodi gweddw ei frawd, rhaid i'r weddw fynd at yr arweinwyr hŷn i'r llys wrth giât y dref a dweud wrthyn nhw, ‘Mae brawd fy ngŵr yn gwrthod wynebu ei gyfrifoldeb fel brawd-yng-nghyfraith, a cadw enw fy ngŵr yn fyw yn Israel!’

8. Yna bydd rhaid i arweinwyr y dref anfon am y dyn i siarad gydag e. Os ydy e'n dal i wrthod ei phriodi hi,

9. dyma sydd i ddigwydd: Mae'r chwaer-yng-nghyfraith i gamu ato o flaen yr arweinwyr, tynnu un o sandalau'r dyn i ffwrdd a phoeri yn ei wyneb. Yna dweud, ‘Dyna sy'n digwydd i'r dyn sy'n gwrthod cadw enw teulu ei frawd i fynd!’

10. O hynny ymlaen bydd ei deulu e'n cael ei nabod fel "teulu'r dyn y tynnwyd ei sandal."

11. Os ydy dau ddyn yn dechrau ymladd gyda'i gilydd, a gwraig un ohonyn nhw yn ymyrryd i amddiffyn ei gŵr, ac yn gafael yn organau preifat y dyn,

12. rhaid torri ei llaw i ffwrdd. Peidiwch teimlo trueni drosti.

13-15. Peidiwch twyllo wrth farchnata, defnyddiwch bwysau cywir, dim un sy'n ysgafn a'r llall yn drwm. A peidiwch defnyddio basgedi mesur o faint gwahanol. Dylai'r pwysau dych chi'n eu defnyddio, a maint y basgedi dych chi'n eu defnyddio fod yn gywir. Wedyn cewch fyw yn hir yn y wlad dych chi'n mynd i'w chymryd.

16. Mae'r ARGLWYDD eich Dduw yn casáu gweld pobl yn bod yn anonest – mae'r peth yn ffiaidd ganddo!

17. “Cofiwch beth wnaeth yr Amaleciaid i chi pan oeddech chi wedi gadael yr Aifft.

18. Roeddech chi wedi blino'n lân, a dyma nhw'n eich dilyn chi ac ymosod ar y rhai oedd yn methu dal i fyny gyda'r gweddill. Doedd ganddyn nhw ddim parch at Dduw.

19. Pan fyddwch chi'n cael llonydd gan yr holl elynion o'ch cwmpas chi yn y wlad mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi i chi, rhaid i chi ladd yr Amaleciaid i gyd – nes bydd neb yn cofio am eu bodolaeth nhw! Peidiwch chi anghofio gwneud hyn!

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 25