Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 25:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan fydd anghydfod yn codi rhwng pobl, dylen nhw fynd i'r llys. Bydd barnwyr yn gwrando ar yr achos, a penderfynu pwy sy'n euog.

2. Os mai chwipio fydd y gosb, mae'r barnwr i wneud iddo orwedd ar lawr o'i flaen, a bydd yn cael ei chwipio faint bynnag o weithiau mae'n ei haeddu am beth wnaeth o'i le.

3. Ddylai'r barnwr ddim dedfrydu neb i fwy na pedwar deg llach. Petai rhywun yn cael ei chwipio fwy na hynny, byddai'r person yn cael ei amharchu'n gyhoeddus.

4. Peidiwch rhwysto'r ychen sy'n sathru'r ŷd rhag bwyta.

5. Os ydy dau frawd yn byw gyda'i gilydd, ac un ohonyn nhw'n marw heb gael mab, ddylai ei weddw ddim priodi rhywun tu allan i'r teulu. Rhaid i frawd y gŵr fuodd farw ei phriodi hi, a chael mab yn ei le.

6. Bydd y mab cyntaf i gael ei eni iddyn nhw yn cael ei gyfri'n fab cyfreithiol i'r brawd fuodd farw, rhag i'w enw ddiflannu o Israel.

7. Ond os ydy'r dyn ddim eisiau priodi gweddw ei frawd, rhaid i'r weddw fynd at yr arweinwyr hŷn i'r llys wrth giât y dref a dweud wrthyn nhw, ‘Mae brawd fy ngŵr yn gwrthod wynebu ei gyfrifoldeb fel brawd-yng-nghyfraith, a cadw enw fy ngŵr yn fyw yn Israel!’

8. Yna bydd rhaid i arweinwyr y dref anfon am y dyn i siarad gydag e. Os ydy e'n dal i wrthod ei phriodi hi,

9. dyma sydd i ddigwydd: Mae'r chwaer-yng-nghyfraith i gamu ato o flaen yr arweinwyr, tynnu un o sandalau'r dyn i ffwrdd a phoeri yn ei wyneb. Yna dweud, ‘Dyna sy'n digwydd i'r dyn sy'n gwrthod cadw enw teulu ei frawd i fynd!’

10. O hynny ymlaen bydd ei deulu e'n cael ei nabod fel "teulu'r dyn y tynnwyd ei sandal."

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 25