Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 23:19-25 beibl.net 2015 (BNET)

19. Peidiwch codi llog ar fenthyciad i gyd-Israeliaid – llog ar arian, ar fwyd, neu unrhyw beth arall sydd wedi ei fenthyg.

20. Cewch godi llog ar fenthyciad i bobl sydd ddim yn Israeliaid, ond peidiwch gwneud hynny wrth fenthyg i'ch pobl eich hunain. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn bendithio popeth wnewch chi, yn y wlad dych chi ar fin ei chymryd, os byddwch chi'n ufudd.

21. Pan fyddwch chi'n gwneud adduned i'r ARGLWYDD eich Duw, peidiwch oedi cyn ei chyflawni. Neu byddwch chi'n cael eich dal yn gyfrifol ganddo.

22. Mae'n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf.

23. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw eich adduned, beth bynnag oedd yr adduned honno. Er enghraifft, os gwnaethoch chi addo rhoi rhywbeth iddo yn offrwm gwirfoddol.

24. Os ydych chi'n mynd trwy winllan rhywun arall, cewch fwyta faint fynnoch chi o rawnwin, ond peidiwch mynd â dim i ffwrdd mewn basged.

25. Os ydych chi'n mynd trwy gae ŷd rhywun, cewch bigo'r tywysennau gyda'ch llaw, ond peidiwch defnyddio cryman i gymryd peth o'r cnwd.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 23