11. Yna gyda'r nos rhaid iddo olchi ei hun gyda dŵr. A bydd yn gallu mynd yn ôl i'r gwersyll ar ôl i'r haul fachlud.
12. Rhaid trefnu lle tu allan i'r gwersyll i'r dynion fynd i'r tŷ bach.
13. Rhaid i ti fynd â rhaw gyda ti i wneud twll, a gorchuddio dy garthion gyda pridd.
14. Mae'r gwersyll i'w gadw'n lân. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn cerdded o gwmpas y gwersyll; mae e gyda chi i'ch achub a'ch galluogi chi i ennill y frwydr. Does gynnoch chi ddim eisiau iddo fe weld rhywbeth afiach, a troi cefn arnoch chi.
15. Os ydy caethwas o wlad arall wedi dianc i wlad Israel, peidiwch mynd ag e yn ôl i'w feistr.
16. Mae i gael byw ble bynnag mae e eisiau. Caiff ddewis unrhyw un o'ch pentrefi i fynd i fyw yno. Peidiwch â'i gam-drin a chymryd mantais ohono.
17. Ddylai merched a dynion ifanc Israel byth wasanaethu fel puteiniaid teml.
18. Paid byth dod â tâl putain neu gyflog puteiniwr i deml yr ARGLWYDD dy Dduw er mwyn cadw addewid. Mae'r ddau beth yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
19. Peidiwch codi llog ar fenthyciad i gyd-Israeliaid – llog ar arian, ar fwyd, neu unrhyw beth arall sydd wedi ei fenthyg.
20. Cewch godi llog ar fenthyciad i bobl sydd ddim yn Israeliaid, ond peidiwch gwneud hynny wrth fenthyg i'ch pobl eich hunain. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn bendithio popeth wnewch chi, yn y wlad dych chi ar fin ei chymryd, os byddwch chi'n ufudd.