Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 23:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dydy dyn sydd â'i geilliau wedi eu niweidio neu ei bidyn wedi ei dorri i ffwrdd ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD.

2. Dydy dyn gafodd ei eni tu allan i briodas ddilys ddim yn cael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. (Na disgynyddion y person hwnnw chwaith, am byth.)

3. Dydy pobl Ammon a Moab ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. (Na'u disgynyddion nhw chwaith, am byth.)

4. Pan ddaethoch chi allan o'r Aifft roedden nhw wedi gwrthod rhoi dŵr a bwyd i chi. A hefyd dyma nhw'n talu Balaam fab Beor o Pethor yn Mesopotamia i'ch melltithio chi.

5. Ond dyma'r ARGLWYDD eich Duw yn gwrthod gwrando arno, ac yn troi'r felltith yn fendith! Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eich caru chi.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 23