Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 22:8-24 beibl.net 2015 (BNET)

8. Wrth adeiladu tŷ newydd, rhaid i ti adeiladu wal isel o gwmpas y to. Wedyn os bydd rhywun yn syrthio oddi ar y to, nid dy fai di fydd e.

9. Rhaid peidio plannu unrhyw gnwd arall mewn gwinllan. Bydd beth bynnag gafodd ei blannu, a'r grawnwin, wedi ei halogi ac yn dda i ddim.

10. Ddylai ychen ac asyn ddim cael eu defnyddio gyda'i gilydd i aredig.

11. Paid gwisgo dillad wedi eu gwneud o frethyn sy'n gymysgedd o wlân a llin.

12. Gwna daselau i'w gosod ar bedair cornel dy fantell.

13. “Dyma sydd i ddigwydd os ydy dyn yn priodi merch, ac yn cymryd yn ei herbyn ar ôl cael perthynas rywiol gyda hi.

14. Mae'n ei chyhuddo hi o gamfihafio, ac yn dweud, ‘Dw i wedi priodi'r ferch yma, ond wrth gael rhyw gyda hi, darganfod ei bod hi ddim yn wyryf!’

15. Pan mae hyn yn digwydd, rhaid i rieni'r ferch ifanc fynd â'r dystiolaeth ei bod hi'n wyryf i'w ddangos i arweinwyr y dref yn y llys wrth giatiau'r dref.

16. Yna rhaid i'r tad ddweud wrth yr arweinwyr, ‘Roeddwn i wedi rhoi fy merch yn wraig i'r dyn yma, ond mae e wedi troi yn ei herbyn hi,

17. a'i chyhuddo hi, ei bod hi ddim yn wyryf. Ond dyma'r prawf ei bod hi'n wyryf!’ Yna rhaid i rieni'r ferch ledu cynfas y gwely priodas o flaen yr arweinwyr, iddyn nhw weld y dystiolaeth.

18. Wedyn rhaid i arweinwyr y dref arestio'r dyn a'i gosbi.

19. Maen nhw i roi dirwy o gant o ddarnau arian iddo, a rhoi'r arian hwnnw i dad y ferch ifanc. Roedd ei gyhuddiad wedi rhoi enw drwg i un o ferched ifanc Israel, a hithau yn wyryf. Bydd y ferch yn aros yn wraig iddo am weddill ei fywyd, a fydd ganddo ddim hawl i'w hysgaru hi.

20. “Ond os ydy'r cyhuddiad yn cael ei brofi'n wir, a'r ferch ifanc ddim yn wyryf,

21. rhaid i ddynion y dref fynd â'r ferch at ddrws tŷ ei thad, a'i lladd drwy daflu cerrig ati. Roedd hi wedi actio fel putain pan oedd hi'n dal i fyw gyda'i rhieni – peth gwarthus i'w wneud yn Israel! Rhaid i chi gael gwared â'r drwg o'ch plith.

22. “Os ydy dyn yn cael ei ddal yn cael rhyw gyda gwraig rhywun arall, rhaid i'r ddau ohonyn nhw farw. Rhaid cael gwared â'r drwg o Israel.

23. “Os ydy merch, sy'n wyryf ac wedi ei dyweddïo, yn cyfarfod dyn arall yn y dref ac yn cael rhyw gydag e,

24. rhaid mynd â'r ddau ohonyn nhw i'r llys wrth giât y dref a'i lladd nhw drwy daflu cerrig atyn nhw. Mae'r ferch ifanc yn euog am ei bod hi heb weiddi am help, er fod y peth wedi digwydd yn y dref. Ac mae'r dyn i gael ei gosbi am dreisio dyweddi dyn arall. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith!

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 22