Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 22:4-22 beibl.net 2015 (BNET)

4. Os wyt ti'n dod ar draws rhywun mewn trafferth am fod ei asyn neu ych wedi syrthio ac yn methu codi, paid â'i anwybyddu. Helpa fe i gael yr anifail ar ei draed unwaith eto.

5. Ddylai merch ddim gwisgo dillad dyn, a ddylai dyn ddim gwisgo dillad merch. Mae gwneud peth felly yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.

6. Os wyt ti'n digwydd dod ar draws nyth (mewn coeden neu ar lawr) gyda cywion neu wyau ynddi a'r iâr yn eistedd arnyn nhw, paid cymryd yr iâr oddi ar y rhai bach.

7. Cei gymryd y rhai bach, ond gad i'r fam fynd. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i ti, a cei fyw'n hir.

8. Wrth adeiladu tŷ newydd, rhaid i ti adeiladu wal isel o gwmpas y to. Wedyn os bydd rhywun yn syrthio oddi ar y to, nid dy fai di fydd e.

9. Rhaid peidio plannu unrhyw gnwd arall mewn gwinllan. Bydd beth bynnag gafodd ei blannu, a'r grawnwin, wedi ei halogi ac yn dda i ddim.

10. Ddylai ychen ac asyn ddim cael eu defnyddio gyda'i gilydd i aredig.

11. Paid gwisgo dillad wedi eu gwneud o frethyn sy'n gymysgedd o wlân a llin.

12. Gwna daselau i'w gosod ar bedair cornel dy fantell.

13. “Dyma sydd i ddigwydd os ydy dyn yn priodi merch, ac yn cymryd yn ei herbyn ar ôl cael perthynas rywiol gyda hi.

14. Mae'n ei chyhuddo hi o gamfihafio, ac yn dweud, ‘Dw i wedi priodi'r ferch yma, ond wrth gael rhyw gyda hi, darganfod ei bod hi ddim yn wyryf!’

15. Pan mae hyn yn digwydd, rhaid i rieni'r ferch ifanc fynd â'r dystiolaeth ei bod hi'n wyryf i'w ddangos i arweinwyr y dref yn y llys wrth giatiau'r dref.

16. Yna rhaid i'r tad ddweud wrth yr arweinwyr, ‘Roeddwn i wedi rhoi fy merch yn wraig i'r dyn yma, ond mae e wedi troi yn ei herbyn hi,

17. a'i chyhuddo hi, ei bod hi ddim yn wyryf. Ond dyma'r prawf ei bod hi'n wyryf!’ Yna rhaid i rieni'r ferch ledu cynfas y gwely priodas o flaen yr arweinwyr, iddyn nhw weld y dystiolaeth.

18. Wedyn rhaid i arweinwyr y dref arestio'r dyn a'i gosbi.

19. Maen nhw i roi dirwy o gant o ddarnau arian iddo, a rhoi'r arian hwnnw i dad y ferch ifanc. Roedd ei gyhuddiad wedi rhoi enw drwg i un o ferched ifanc Israel, a hithau yn wyryf. Bydd y ferch yn aros yn wraig iddo am weddill ei fywyd, a fydd ganddo ddim hawl i'w hysgaru hi.

20. “Ond os ydy'r cyhuddiad yn cael ei brofi'n wir, a'r ferch ifanc ddim yn wyryf,

21. rhaid i ddynion y dref fynd â'r ferch at ddrws tŷ ei thad, a'i lladd drwy daflu cerrig ati. Roedd hi wedi actio fel putain pan oedd hi'n dal i fyw gyda'i rhieni – peth gwarthus i'w wneud yn Israel! Rhaid i chi gael gwared â'r drwg o'ch plith.

22. “Os ydy dyn yn cael ei ddal yn cael rhyw gyda gwraig rhywun arall, rhaid i'r ddau ohonyn nhw farw. Rhaid cael gwared â'r drwg o Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 22