Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 22:25-30 beibl.net 2015 (BNET)

25. “Ond os digwyddodd y peth yng nghefn gwlad, a'r dyn wedi fforsio ei hun arni a'i threisio hi, dim ond y dyn sydd i farw.

26. Dydy'r ferch ifanc ddim i gael ei chosbi o gwbl. Wnaeth hi ddim byd o'i le i haeddu marw. Mae'r un fath â pan mae rhywun wedi ymosod ar berson arall a'i lofruddio –

27. roedd y peth wedi digwydd yng nghefn gwlad, lle doedd neb i'w hachub hi pan oedd hi'n gweiddi.

28. “Os ydy dyn yn cael ei ddal yn treisio merch ifanc sydd heb ei dyweddïo,

29. rhaid i'r dyn dalu pum deg darn arian i'w thad, ac yna priodi'r ferch. Am ei fod e wedi ei threisio hi, fydd e byth yn cael ei hysgaru hi.

30. “Dydy dyn ddim i briodi merch oedd ar un adeg yn wraig i'w dad. Byddai hynny'n amharchu ei dad.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 22