Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 22:21-27 beibl.net 2015 (BNET)

21. rhaid i ddynion y dref fynd â'r ferch at ddrws tŷ ei thad, a'i lladd drwy daflu cerrig ati. Roedd hi wedi actio fel putain pan oedd hi'n dal i fyw gyda'i rhieni – peth gwarthus i'w wneud yn Israel! Rhaid i chi gael gwared â'r drwg o'ch plith.

22. “Os ydy dyn yn cael ei ddal yn cael rhyw gyda gwraig rhywun arall, rhaid i'r ddau ohonyn nhw farw. Rhaid cael gwared â'r drwg o Israel.

23. “Os ydy merch, sy'n wyryf ac wedi ei dyweddïo, yn cyfarfod dyn arall yn y dref ac yn cael rhyw gydag e,

24. rhaid mynd â'r ddau ohonyn nhw i'r llys wrth giât y dref a'i lladd nhw drwy daflu cerrig atyn nhw. Mae'r ferch ifanc yn euog am ei bod hi heb weiddi am help, er fod y peth wedi digwydd yn y dref. Ac mae'r dyn i gael ei gosbi am dreisio dyweddi dyn arall. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith!

25. “Ond os digwyddodd y peth yng nghefn gwlad, a'r dyn wedi fforsio ei hun arni a'i threisio hi, dim ond y dyn sydd i farw.

26. Dydy'r ferch ifanc ddim i gael ei chosbi o gwbl. Wnaeth hi ddim byd o'i le i haeddu marw. Mae'r un fath â pan mae rhywun wedi ymosod ar berson arall a'i lofruddio –

27. roedd y peth wedi digwydd yng nghefn gwlad, lle doedd neb i'w hachub hi pan oedd hi'n gweiddi.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 22