Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 22:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Os wyt ti'n gweld buwch, dafad neu afr rhywun ar goll, paid â'i anwybyddu. Dos a'r anifail yn ôl at y perchennog.

2. Os nad wyt ti'n gwybod pwy ydy'r perchennog, neu os ydy e'n byw yn rhy bell, dos â'r anifail adre a gofalu amdano. Ond pan ddaw'r perchennog i edrych amdano, rhaid i ti roi'r anifail yn ôl iddo.

3. Gwna yr un fath gydag unrhyw beth ti'n dod o hyd iddo – asyn, dilledyn, unrhyw beth sydd piau rhywun arall. Paid dim ond anwybyddu'r peth.

4. Os wyt ti'n dod ar draws rhywun mewn trafferth am fod ei asyn neu ych wedi syrthio ac yn methu codi, paid â'i anwybyddu. Helpa fe i gael yr anifail ar ei draed unwaith eto.

5. Ddylai merch ddim gwisgo dillad dyn, a ddylai dyn ddim gwisgo dillad merch. Mae gwneud peth felly yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.

6. Os wyt ti'n digwydd dod ar draws nyth (mewn coeden neu ar lawr) gyda cywion neu wyau ynddi a'r iâr yn eistedd arnyn nhw, paid cymryd yr iâr oddi ar y rhai bach.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 22