Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 21:17-23 beibl.net 2015 (BNET)

17. Rhaid iddo dderbyn mai mab ei wraig arall ydy'r hynaf, a rhoi'r siâr ddwbl i hwnnw. Wedi'r cwbl, fe oedd y mab cyntaf i gael ei eni.

18. “Os oes gan rywun fab penstiff sy'n gwrthryfela, ac yn gwrthod gwrando ar ei dad a'i fam pan maen nhw'n ei ddisgyblu,

19. rhaid i'w rieni fynd ag e at yr arweinwyr hŷn i'r llys wrth giât y dre.

20. Yna maen nhw i wneud y datganiad yma: ‘Mae ein mab ni yn benstiff ac yn gwrthryfela. Mae e'n gwrthod gwrando ar beth dŷn ni'n ddweud – mae e'n folgi ac yn feddwyn!’

21. Yna rhaid i ddynion y dref ladd y bachgen drwy daflu cerrig ato. Drwy wneud hynny byddwch chi'n cael gwared â'r drwg o'ch plith. A bydd pobl Israel yn clywed am y peth ac yn dychryn.

22. Os ydy rhywun yn cael ei ddienyddio am gyflawni trosedd oedd yn haeddu'r gosb eithaf, a'r corff yn cael ei hongian ar bren,

23. rhaid peidio gadael y corff i hongian dros nos. Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn ei gladdu yr un diwrnod. Mae rhywun sydd wedi ei grogi ar bren dan felltith Duw. Rhaid i chi beidio halogi'r wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 21