Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 21:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Os byddwch chi'n darganfod corff yn rhywle yn y wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi, a neb yn gwybod pwy sydd wedi ei ladd,

2. rhaid i'r arweinwyr a'r barnwyr fynd allan a penderfynu pa dref sydd agosaf at y corff.

3. Yna rhaid i arweinwyr y dref agosaf gymryd heffer ifanc (un sydd erioed wedi gweithio gyda iau),

4. a mynd â hi i ddyffryn lle mae dŵr yn llifo, ond lle mae'r tir heb ei drin, a dim wedi ei hau yno. Wedyn maen nhw i ladd yr heffer.

5. Yna bydd yr offeiriaid o lwyth Lefi yn camu ymlaen (y rhai sydd wedi eu dewis gan yr ARGLWYDD i'w wasanaethu ac i fendithio pobl ar ei ran, a dyfarnu achosion yn y llysoedd).

6. A bydd arweinwyr y dref agosaf yn golchi eu dwylo uwch ben corff yr heffer gafodd ei lladd yn y dyffryn.

7. Yna byddan nhw'n gwneud datganiad, ‘Wnaethon ni ddim lladd y person yma, a does neb yn gwybod pwy wnaeth.

8. Felly, ARGLWYDD, paid rhoi'r bai ar dy bobl Israel a'u dal nhw'n gyfrifol am dywallt gwaed rhywun diniwed.’ A bydd yr ARGLWYDD yn maddau'r drosedd.

9. Dyna sut mae symud yr euogrwydd fod person diniwed wedi ei ladd, a sut mae gwneud beth sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.

10. “Dyma sydd i ddigwydd os byddwch yn mynd i ryfel, a'r ARGLWYDD yn gadael i chi ennill y frwydr, a chymryd pobl yn garcharorion:

11. Os bydd un o'r carcharorion yn ferch hardd, ac un o'ch dynion chi yn ei ffansïo hi ac eisiau ei chymryd hi'n wraig,

12. mae i fynd â hi adre. Rhaid iddi siafio ei phen, a thorri ei hewinedd,

13. a thaflu i ffwrdd y dillad roedd hi'n eu gwisgo pan gafodd ei dal. Yna rhaid iddi aros yn y tŷ am fis cyfan, yn galaru am ei thad a'i mam. Dim ond ar ôl gwneud hynny y gall y dyn ei chymryd hi'n wraig a chael rhyw gyda hi.

14. Os na fydd hi'n ei blesio wedyn, rhaid iddo adael iddi fynd yn rhydd. Dydy e ddim yn gallu ei gwerthu hi. Ddylai e ddim cymryd mantais ohoni, am ei fod eisoes wedi cael rhyw gyda hi.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 21