Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 2:20-37 beibl.net 2015 (BNET)

20. (Roedd y tir yma hefyd yn arfer perthyn i'r Reffaiaid. Nhw oedd yn byw yno'n wreiddiol. Enw pobl Ammon arnyn nhw oedd Samswmiaid –

21. tyrfa fawr arall o gewri cryfion fel yr Anaciaid. Ond roedd yr ARGLWYDD wedi eu dinistrio nhw, ac roedd pobl Ammon wedi setlo i lawr ar eu tiroedd.

22. A dyna'n union oedd wedi digwydd gyda disgynyddion Esau sy'n dal i fyw hyd heddiw yn ardal Seir. Roedd yr ARGLWYDD wedi dinistrio'r Horiaid oedd yn byw yno o'u blaenau nhw.

23. A'r un fath gyda'r Afiaid oedd yn byw mewn pentrefi mor bell â Gasa yn y de. Y Philistiaid o ynys Creta wnaeth eu dinistrio nhw a setlo i lawr ar eu tiroedd.)

24. “Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Ewch yn eich blaenau, a croesi Ceunant Arnon. Dw i'n mynd i roi buddugoliaeth i chi dros Sihon yr Amoriad, brenin Cheshbon. Ewch i goncro ei dir! Ewch i ryfel yn ei erbyn!

25. O heddiw ymlaen bydd pobl ym mhobman yn dychryn ac yn ofni pan fyddan nhw'n clywed amdanoch chi. Byddan nhw'n crynu mewn ofn wrth i chi ddod yn agos.’”

26. “Pan oedden ni yn anialwch Cedemoth, dyma fi'n anfon negeswyr at y brenin Sihon yn Cheshbon, yn cynnig telerau heddwch.

27. ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di? Gwnawn ni aros ar y briffordd, a mynd yn syth trwodd.

28. Gwnawn ni dalu am unrhyw fwyd neu ddŵr fyddwn ni ei angen. Dŷn ni ond am i ti adael i ni basio drwy'r wlad –

29. fel gwnaeth disgynyddion Esau yn Seir a'r Moabiaid yn Ar. Yna byddwn ni'n croesi'r Afon Iorddonen i'r tir mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei roi i ni.’

30. “Ond doedd y Brenin Sihon o Cheshbon ddim yn fodlon gadael i ni groesi ei dir. Roedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud yn galed ac ystyfnig, er mwyn i chi ei goncro.

31. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Dw i'n rhoi Sihon a'i dir i chi. Ewch ati i gymryd y wlad drosodd.’

32. “Pan ddaeth Sihon a'i fyddin allan i ymladd yn ein herbyn yn Iahats,

33. dyma'r ARGLWYDD ein Duw yn ein helpu ni i'w drechu. Cafodd Sihon, ei feibion, a'i fyddin i gyd eu lladd.

34. Dyma ni'n concro a dinistrio'r trefi i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw – hyd yn oed gwragedd a phlant.

35. Dim ond yr anifeiliaid, ac unrhyw beth arall oedd yn werthfawr, wnaethon ni ei gadw.

36. Dyma'r ARGLWYDD ein Duw yn ein helpu i goncro pob tref o Aroer, ar ymyl Ceunant Arnon, a'r dref sydd yn y dyffryn ei hun, yr holl ffordd i Gilead yn y gogledd.

37. Ond fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn, wnaethon ni ddim cymryd tir pobl Ammon, wrth ymyl Afon Jabboc, na'r trefi yn y bryniau.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 2