4. “Dyma fydd y drefn os bydd rhywun yn lladd ar ddamwain, heb fod unrhyw ddrwg wedi ei fwriadu.
5. Er enghraifft, lle mae dau ddyn wedi mynd i'r goedwig i dorri coed, ac wrth i un godi ei fwyell, mae blaen y fwyell yn dod i ffwrdd o'r goes ac yn taro'r llall a'i ladd. Mae'r dyn wnaeth ladd yn gallu dianc i un o'r trefi yma.
6. Os na fydd yn gwneud hynny gall perthynas agosa'r dyn laddwyd ei ddal, a dial arno a'i ladd. Ond doedd e ddim wir yn haeddu hynny, am nad oedd e wedi bwriadu unrhyw ddrwg pan ddigwyddodd y ddamwain.
7. Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi ddewis tair tref i'r pwrpas yma.
8. “Wedyn pan fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn rhoi mwy eto o dir i chi, (sef yr holl dir wnaeth e addo ei roi i'ch hynafiaid chi,)
9. a chithau'n gwneud yn siŵr eich bod chi'n cadw'r holl orchmynion dw i'n eu rhoi i chi (sef caru'r ARGLWYDD eich Duw a byw fel mae e eisiau i chi fyw), rhaid i chi ddewis tair tref arall at y tair sydd gynnoch chi eisoes.
10. Does dim eisiau i bobl gael eu dienyddio os ydyn nhw'n ddieuog. Ddylai peth felly ddim digwydd yn y wlad mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi i chi.
11. “Ond os ydy rhywun yn casáu person arall, disgwyl amdano, ymosod arno a'i ladd, ac wedyn yn dianc i un o'r trefi yma, dyma sydd i ddigwydd:
12. Rhaid i arweinwyr y dref lle mae'n byw anfon dynion i'w arestio a gadael i berthynas agosaf y sawl gafodd ei ladd ddial arno a'i ladd e.