9. “Saith wythnos ar ôl dechrau'r cynhaeaf ŷd,
10. dych chi i ddathlu Gŵyl y Cynhaeaf o flaen yr ARGLWYDD eich Duw. A rhaid i chi ddod â peth o'r cynhaeaf mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i chi, yn offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol.
11. Byddwch yn dathlu o'i flaen – gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon.
12. Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'r canllawiau yma dw i'n eu rhoi i chi.
13. “Rhaid i chi gadw Gŵyl y Pebyll am saith diwrnod ar ôl i chi orffen casglu'r grawn o'r llawr dyrnu a gwasgu'r grawnwin.
14. Byddwch yn dathlu'r Ŵyl gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon.
15. Byddwch yn dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod, yn y lle mae e wedi ei ddewis, am ei fod e wedi bendithio eich holl waith chi. Felly bydd gynnoch chi le i ddathlu go iawn!
16. “Felly dair gwaith bob blwyddyn, mae'r dynion i gyd i fynd o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi ei ddewis – ar Ŵyl y Bara Croyw, Gŵyl y Cynhaeaf, a Gŵyl y Pebyll. A rhaid iddyn nhw fynd â rhywbeth i'w offrymu bob tro.
17. Dylai pob un roi beth mae'n gallu, fel mae'r ARGLWYDD wedi ei fendithio.
18. “Rhaid i chi benodi barnwyr a swyddogion eraill i bob llwyth yn y trefi mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eu rhoi i chi. A rhaid iddyn nhw farnu'r bobl yn deg.
19. Peidio gwyrdroi cyfiawnder a dangos ffafriaeth. Peidio derbyn breib. Mae breib yn dallu pobl ddoeth a troi pobl onest yn gelwyddog.
20. Cyfiawnder pur dw i eisiau, dim llai, er mwyn i chi lwyddo a chymryd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi.
21. “Peidiwch codi polyn i'r dduwies Ashera wrth ymyl allor dych chi'n wedi ei gwneud i'r ARGLWYDD eich Duw.
22. A peidiwch codi colofn gysegredig! Mae'r ARGLWYDD yn casáu pethau felly.