Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 15:12-23 beibl.net 2015 (BNET)

12. “Os ydy un o'ch pobl, Hebrëwr neu Hebraes, yn gwerthu ei hun i chi, dylai weithio i chi am chwe mlynedd, ond yna ar ddechrau'r seithfed flwyddyn rhaid i chi ei ollwng yn rhydd.

13. A peidiwch ei anfon i ffwrdd yn waglaw –

14. dylech roi defaid a geifr iddo, a digon o ŷd a gwin. Fel mae'r ARGLWYDD wedi bod yn hael atoch chi, rhaid i chi fod yn hael atyn nhw.

15. Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD wedi'ch gollwng chi'n rhydd. Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi wneud hyn heddiw.

16. “Ond os ydy'r gwas yn dweud, ‘Dw i ddim eisiau dy adael di,’ am ei fod yn hapus gyda ti a dy deulu, a bod bywyd yn dda arno,

17. cymer fynawyd a gwneud twll drwy ei glust i'r drws. Wedyn bydd yn was i ti am weddill ei oes (Ac mae'r un peth i'w wneud gyda dy forwyn.)

18. “Paid cwyno os ydy'r gwas neu'r forwyn am gael mynd yn rhydd. Wedi'r cwbl byddi wedi cael chwe blynedd o wasanaeth am hanner y gost o gadw gwas cyflog. Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn bendithio popeth wnei di os byddi di'n ufudd.

19. “Rhaid i bob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni gael ei gadw i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD – o'r gwartheg, defaid a geifr. Peidiwch gwneud i'r ychen oedd gyntaf i gael ei eni weithio, na cneifio'r ddafad neu'r afr gyntaf i gael ei geni.

20. Bob blwyddyn, dych chi a'ch teulu i'w bwyta o flaen yr ARGLWYDD yn y lle mae e wedi ei ddewis.

21. Ond peidiwch aberthu anifail sydd â rhywbeth o'i le arno i'r ARGLWYDD – anifail sy'n gloff, yn ddall, neu gydag unrhyw beth arall o'i le arno.

22. Cewch fwyta'r anifeiliaid hynny yn eich pentrefi, fel petai'n gig gasél neu garw. A gall pawb eu bwyta – y bobl sy'n lân yn seremonïol a'r rhai sydd ddim.

23. Ond rhaid i chi beidio bwyta'r gwaed. Mae'r gwaed i gael ei dywallt ar lawr fel dŵr.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 15