Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 15:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Ar ddiwedd pob saith mlynedd rhaid cyhoeddi fod dyledion yn cael eu canslo.

2. Dyma beth sydd i ddigwydd: Rhaid i'r credydwr ddileu unrhyw ddyledion sydd gan bobl eraill iddo. Ddylai e ddim gorfodi un o'i gydwladwyr yn Israel i dalu'r ddyled. Mae'r amser i ganslo dyledion wedi dechrau.

3. Gallwch hawlio ad-daliad gan bobl o'r tu allan, ond mae dyledion eich cyd-Israeliaid i gael eu canslo.

4. “Ddylai neb fod mewn angen yn eich plith chi, am fod yr ARGLWYDD yn mynd i'ch bendithio chi yn y wlad mae'n ei rhoi i chi

5. os byddwch chi'n ufudd ac yn cadw'r holl orchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw.

6. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio, fel gwnaeth e addo. Bydd pobl Israel yn benthyg i wledydd eraill, ond ddim yn gorfod benthyca gan unrhyw un. Bydd Israel yn rheoli gwledydd eraill, ond fyddan nhw ddim yn eich rheoli chi.

7. “Os bydd un o bobl Israel, sy'n byw yn eich pentrefi chi, mewn angen, peidiwch bod yn galon-galed ac yn grintachlyd.

8. Yn lle hynny, byddwch yn garedig ac yn hael, a benthyg beth bynnag sydd arno'i angen.

9. Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn meddwl pethau drwg pan mae'r seithfed flwyddyn (sef blwyddyn canslo dyledion) yn agosáu. Peidiwch meithrin agwedd anghywir tuag at eich cyd-Israeliad sydd mewn angen, a gwrthod benthyg iddo. Bydd e'n cwyno i'r ARGLWYDD amdanoch chi, a byddwch chi wedi pechu.

10. Dylech chi fod yn frwd i'w helpu, a peidio bod yn flin eich bod wedi gwneud hynny. Bydd yr ARGLWYDD yn talu'n ôl i chi, ac yn bendithio popeth wnewch chi.

11. Bydd yna bobl dlawd yn y wlad bob amser, a dyna pam dw i'n dweud wrthoch chi am fod yn hael tuag at eich cydwladwyr tlawd.

12. “Os ydy un o'ch pobl, Hebrëwr neu Hebraes, yn gwerthu ei hun i chi, dylai weithio i chi am chwe mlynedd, ond yna ar ddechrau'r seithfed flwyddyn rhaid i chi ei ollwng yn rhydd.

13. A peidiwch ei anfon i ffwrdd yn waglaw –

14. dylech roi defaid a geifr iddo, a digon o ŷd a gwin. Fel mae'r ARGLWYDD wedi bod yn hael atoch chi, rhaid i chi fod yn hael atyn nhw.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 15