Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 14:22-29 beibl.net 2015 (BNET)

22. “Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n rhoi heibio ddeg y cant o gynnyrch eich tir bob blwyddyn.

23. Ac mae hwn i gael ei fwyta o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle bydd e'n ei ddewis – deg y cant o'r ŷd, y sudd grawnwin, yr olew olewydd, a phob anifail cyntaf-anedig – gwartheg, defaid a geifr. Rhaid i chi ddysgu dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw bob amser.

24. “Pan fydd e'n eich bendithio, os ydy'r lle mae e wedi ei ddewis yn rhy bell,

25. gallwch werthu'r deg y cant o'ch cynnyrch, a mynd â'r arian gyda chi yn ei le.

26. Wedyn yno, gallwch brynu cig eidion, cig oen, gwin, cwrw, ac unrhyw fwyd arall dych chi eisiau.

27. Ond cofiwch ofalu am y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, gan nad oes ganddyn nhw dir fel y gweddill ohonoch chi.

28. “Bob tair blynedd rhaid i chi gymryd deg y cant o gynnyrch y flwyddyn honno, a'i storio yn eich pentrefi.

29. Bydd yno i'w ddefnyddio gan y rhai sydd o lwyth Lefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad, a'r gweddwon yn y pentref. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn bendithio popeth fyddwch chi'n ei wneud.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 14