Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 14:11-22 beibl.net 2015 (BNET)

11. “Gallwch fwyta unrhyw aderyn sy'n lân yn seremonïol.

12. Ond peidiwch bwyta'r rhain: eryr, fwltur, fwltur du,

13. barcud, hebog, bwncath,

14. gwahanol fathau o frain,

15. estrys, tylluan, gwylan, a hebog o unrhyw fath,

16. tylluan fach, tylluan gorniog, tylluan wen,

17. y pelican, eryr y môr, bilidowcar,

18. storc, gwahanol fathau o grëyr, copog, na'r ystlum chwaith.

19. “Mae pryfed sy'n hedfan yn aflan hefyd. Peidiwch bwyta nhw.

20. Gallwch fwyta unrhyw aderyn sy'n lân yn seremonïol.

21. Peidiwch bwyta corff unrhyw anifail neu aderyn sydd wedi marw ohono'i hun. Gallwch ei roi i'r bobl o'r tu allan sy'n byw yn eich pentrefi chi, neu ei werthu i estroniaid. Ond dych chi'n bobl wedi eu cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw.“Peidiwch berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.

22. “Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n rhoi heibio ddeg y cant o gynnyrch eich tir bob blwyddyn.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 14