Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 14:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Bobl Israel, chi ydy plant yr ARGLWYDD eich Duw. Felly peidiwch torri eich hunain â chyllyll neu siafio eich talcen pan dych chi'n galaru am rywun sydd wedi marw.

2. Dych chi'n bobl sydd wedi eich cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. O bob cenedl ar wyneb y ddaear, mae e wedi eich dewis chi yn drysor sbesial iddo'i hun.

3. “Peidiwch bwyta unrhyw beth sy'n ffiaidd.

4. Dyma'r anifeiliaid sy'n iawn i'w bwyta: bustach, dafad, gafr,

5. hydd, gasél, carw, gafr wyllt, orycs, antelop, a'r ddafad fynydd.

6. “Gallwch fwyta unrhyw anifail sydd â charn fforchog ac sy'n cnoi cil.

7. Ond peidiwch bwyta camel, ysgyfarnog, a broch y creigiau (Er eu bod nhw'n cnoi cil, does ganddyn nhw ddim carn fforchog, felly maen nhw i'w hystyried yn aflan.)

8. A peidiwch bwyta cig moch (Er fod gan fochyn garn fforchog, dydy e ddim yn cnoi cil. Peidiwch hyd yn oed cyffwrdd mochyn sydd wedi marw!)

9. “Gallwch fwyta unrhyw greaduriaid sy'n byw yn y dŵr sydd ag esgyll a cennau arnyn nhw,

10. ond dim byd sydd heb esgyll a cennau – mae'r rheiny i'w hystyried yn aflan.

11. “Gallwch fwyta unrhyw aderyn sy'n lân yn seremonïol.

12. Ond peidiwch bwyta'r rhain: eryr, fwltur, fwltur du,

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 14