Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 13:6-18 beibl.net 2015 (BNET)

6. “Os ydy un o'ch teulu agosaf, neu eich ffrind gorau, yn ceisio'ch denu chi i addoli duwiau eraill

7. (sdim ots o ble – eilun-dduwiau'r bobl o'ch cwmpas chi, neu unrhyw le drwy'r byd i gyd),

8. peidiwch gwrando na chymryd unrhyw sylw. Peidiwch teimlo trueni drosto, na gwneud esgusion na cadw'i ran.

9-10. Rhaid iddo gael ei ladd, drwy daflu cerrig ato. A chi ddylai daflu'r garreg gyntaf ato, ac wedyn pawb arall gyda chi.

11. Bydd pobl Israel yn clywed am y peth, ac yn dychryn, ac wedyn fydd neb yn gwneud y drwg byth eto.

12. “Tasech chi'n clywed yn un o'r trefi mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eu rhoi i chi, fod

13. rhyw bobl ddrwg wedi mynd ati i annog pobl y dre i addoli duwiau eraill (duwiau oeddech chi'n gwybod dim amdanyn nhw o'r blaen)

14. rhaid i chi ymchwilio i'r mater a holi pobl yn fanwl i ddarganfod os ydy'r stori'n wir. Ac os ydy'n wir fod peth mor ofnadwy wedi digwydd,

15. rhaid i bobl y dref honno gael eu lladd – rhaid i bawb a phopeth byw gael eu ladd, gan gynnwys yr anifeiliaid.

16. Yna rhaid i chi gasglu'r pethau gwerthfawr i ganol sgwâr y dref, a llosgi'r dref a'r cwbl yn offrwm i'r ARGLWYDD eich Duw. Bydd y dref yn cael ei gadael yn domen o adfeilion, a byth i gael ei hadeiladu eto.

17. Peidiwch cadw dim byd sydd i fod i gael ei ddinistrio. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn stopio bod yn ddig, yn teimlo trueni a bod yn garedig atoch chi, ac yn rhoi lot o blant i chi fel gwnaeth e addo i'r hynafiaid.

18. “Felly rhaid i chi wneud beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud, cadw'r gorchmynion dw i'n eu pasio ymlaen i chi heddiw, a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg e.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 13