1. “Falle bydd proffwyd neu rywun sy'n cael gweledigaethau trwy freuddwydion yn dod atoch chi ac yn dweud fod gwyrth ryfeddol yn mynd i ddigwydd.
2. Hyd yn oed os ydy'r wyrth yn digwydd, a'r proffwyd yn ceisio'ch cael chi i addoli duwiau eraill (eilun-dduwiau oeddech chi'n gwybod dim amdanyn nhw o'r blaen),
3. peidiwch gwrando arno. Mae'r ARGLWYDD yn eich rhoi chi ar brawf, i weld os ydych chi wir yn ei garu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.
4. Dych chi i fod i ddilyn yr ARGLWYDD eich Duw, a'i barchu e yn unig. Bod yn ufudd i'w orchmynion, gwneud beth mae e'n ddweud, ei wasanaethu ac aros yn ffyddlon iddo.