Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 12:5-20 beibl.net 2015 (BNET)

5. Ewch i'r lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis iddo'i hun, a'i addoli yno.

6. Dyna lle byddwch chi'n mynd i gyflwyno offrymau i'w llosgi ac aberthau eraill, eich rhoddion a'ch degymau, eich offrymau i wneud addewid, eich offrymau gwirfoddol, a'r anifeiliaid cyntaf-anedig – gwartheg, defaid a geifr.

7. Byddwch chi a'ch teuluoedd yn mynd yno i fwyta a gwledda, a dathlu'r ffaith fod yr ARGLWYDD wedi bendithio'ch gwaith caled chi a rhoi cnydau da i chi.

8. “Rhaid i chi beidio gwneud beth dŷn ni'n ei wneud yma heddiw – pawb yn gwneud beth mae nhw eisiau.

9. Dych chi ddim eto wedi cyrraedd pen y daith, a derbyn yr etifeddiaeth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi.

10. Ar ôl i chi groesi'r Afon Iorddonen, a setlo yn y wlad mae'n ei rhoi i chi, pan fyddwch chi'n cael llonydd gan yr holl elynion o'ch cwmpas chi, byddwch chi'n saff.

11. Byddwch chi'n mynd i'r lle fydd yr ARGLWYDD wedi ei ddewis iddo'i hun, ac yn mynd â'r pethau dw i'n ei orchymyn i gyd iddo – offrymau i'w llosgi, aberthau, degymau, eich rhoddion personol, a'r offrymau i wneud adduned dych chi am eu rhoi iddo.

12. “Byddwch yn dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw, gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, a'r Lefiaid sy'n byw yn eich pentrefi (gan na chawson nhw dir fel y gweddill ohonoch chi.)

13. Peidiwch cyflwyno offrymau i'w llosgi ble bynnag dych chi eisiau.

14. Gwnewch y cwbl dw i'n ei orchymyn i chi, dim ond yn y lle fydd yr ARGLWYDD wedi ei ddewis.

15. “Ond cewch ladd anifeiliaid i fwyta eu cig ble bynnag dych chi eisiau – cig y gasél a'r carw. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio, a bydd pawb yn cael ei fwyta – y bobl sy'n lân yn seremonïol a'r rhai sydd ddim.

16. Ond rhaid i chi beidio bwyta'r gwaed – mae'r gwaed i gael ei dywallt ar lawr fel dŵr.

17. “A dych chi ddim i fwyta eich offrymau yn eich pentrefi – y degwm o'r ŷd, y sudd grawnwin a'r olew olewydd, yr anifeiliaid cyntaf-anedig, eich offrymau i wneud adduned a'ch offrymau personol gwirfoddol.

18. Mae'r rhain i gael eu bwyta o flaen yr ARGLWYDD yn y lle mae e wedi ei ddewis. Dych chi, a'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, a'r Lefiaid sy'n byw yn eich pentrefi i fynd yno, i ddathlu'r ffaith fod yr ARGLWYDD wedi bendithio'ch gwaith caled chi drwy roi cnydau mor dda i chi.

19. Gwnewch yn siŵr eich bod chi byth yn esgeuluso'ch cyfrifoldeb tuag at y bobl o lwyth Lefi.

20. “Mae'r ARGLWYDD wedi addo y bydd yn rhoi mwy o dir i chi. Pan fydd yn gwneud hynny, cewch fwyta faint bynnag o gig dych chi eisiau, ble bynnag dych chi eisiau.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 12