Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 12:18-32 beibl.net 2015 (BNET)

18. Mae'r rhain i gael eu bwyta o flaen yr ARGLWYDD yn y lle mae e wedi ei ddewis. Dych chi, a'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, a'r Lefiaid sy'n byw yn eich pentrefi i fynd yno, i ddathlu'r ffaith fod yr ARGLWYDD wedi bendithio'ch gwaith caled chi drwy roi cnydau mor dda i chi.

19. Gwnewch yn siŵr eich bod chi byth yn esgeuluso'ch cyfrifoldeb tuag at y bobl o lwyth Lefi.

20. “Mae'r ARGLWYDD wedi addo y bydd yn rhoi mwy o dir i chi. Pan fydd yn gwneud hynny, cewch fwyta faint bynnag o gig dych chi eisiau, ble bynnag dych chi eisiau.

21. Os bydd y lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis iddo'i hun yn rhy bell i chi deithio iddo, cewch ladd yr anifeiliaid fel dw i wedi dweud wrthoch chi, a'i bwyta nhw yn eich pentrefi.

22. Caiff pawb eu bwyta nhw – y bobl sy'n lân yn seremonïol a'r rhai sydd ddim. Cewch fwyta fel petai'n gig gasél neu garw.

23. Ond peidiwch bwyta gwaed ar unrhyw gyfri! Mae'r bywyd yn y gwaed, a rhaid i chi beidio bwyta'r bywyd gyda'r cig.

24. Peidiwch a'i fwyta! Rhaid i chi ei dywallt ar lawr fel dŵr.

25. Peidiwch a'i fwyta, er mwyn i bethau fynd yn dda i chi a'ch plant ar eich ôl. Byddwch yn gwneud beth sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.

26. “Dim ond y pethau sanctaidd, a'r offrymau i wneud adduned, fydd raid i chi fynd â nhw i'r lle ffydd fydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis.

27. Rhaid i chi gyflwyno'r offrymau sydd i'w llosgi, y cig a'r gwaed, ar allor yr ARGLWYDD eich Duw. Ac mae gwaed yr aberthau eraill i'w dywallt ar yr allor pan fyddwch chi'n bwyta'r cig.

28. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud beth dw i'n ei orchymyn i chi, er mwyn i bethau fynd yn dda i chi ac i'ch disgynyddion ar eich holau. Byddwch chi'n gwneud beth sy'n dda ac yn iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw.

29. “Pan fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cael gwared â'r bobloedd sydd yn y wlad dych chi'n mynd i'w chymryd, byddwch chi'n setlo i lawr yno yn eu lle nhw.

30. Pan fyddan nhw wedi cael eu dinistrio o'ch blaen chi, gwyliwch rhag i chi gael eu trapio yr un fath â nhw. Peidiwch addoli eu duwiau nhw, na ceisio darganfod sut roedden nhw'n addoli, a meddwl gwneud yr un fath â nhw.

31. Dych chi ddim i addoli'r ARGLWYDD eich Duw yn y ffyrdd roedden nhw'n addoli. Roedden nhw'n gwneud pethau sy'n hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD wrth addoli – pethau mae e'n eu casáu! Roedden nhw hyd yn oed yn llosgi eu plant yn aberth i'w duwiau!

32. “Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud popeth dw i'n ei orchymyn i chi – peidiwch ychwanegu dim na chymryd dim i ffwrdd!

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 12