1. “Dyma'r rheolau a'r canllawiau dw i eisiau i chi eu cadw pan fyddwch chi'n byw yn y wlad mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi ei roi i chi.
2. “Mae'n rhaid i chi ddinistrio'n llwyr y mannau hynny lle mae'r bobl fyddwch chi'n cymryd y tir oddi arnyn nhw yn addoli eu duwiau – ar y mynyddoedd a'r bryniau, a than bob coeden ddeiliog.
3. Chwalu eu hallorau paganaidd nhw, malu'r colofnau cysegredig, llosgi polion y dduwies Ashera i lawr, a bwrw'r delwau o'u duwiau nhw i lawr.
4. “Peidiwch addoli'r ARGLWYDD eich Duw yn y ffordd maen nhw'n addoli eu duwiau.
5. Ewch i'r lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis iddo'i hun, a'i addoli yno.