Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 11:13-29 beibl.net 2015 (BNET)

13. “Os gwnewch chi wrando'n ofalus ar y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw, a caru'r ARGLWYDD eich Duw â'ch holl galon ac â'ch holl enaid,

14. mae e'n addo ‘Bydda i'n anfon glaw ar y tir ar yr amser iawn, sef yn yr hydref a'r gwanwyn, er mwyn i chi gasglu'ch cnydau o ŷd a grawnwin ac olewydd.

15. Bydda i'n rhoi porfa i'ch anifeiliaid, a digonedd o fwyd i chi ei fwyta.’

16. “Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn troi cefn arno a dechrau addoli duwiau eraill!

17. Os gwnewch chi hynny bydd yr ARGLWYDD yn digio'n lân hefo chi, ac yn gwneud iddi stopio glawio. Fydd dim cnydau'n tyfu, a byddwch chi'n cael eich symud o'r tir da mae'r ARGLWYDD ar fin ei roi i chi.

18. “Felly dysga'r gorchmynion yma ar dy gof. Rhwyma nhw ar dy freichiau i dy atgoffa di, a gwisga nhw ar dy dalcen i'w cofio.

19. Dysga nhw'n gyson i dy blant, a'i trafod nhw pan fyddi adre yn y tŷ, ac i ffwrdd oddi cartref, pan fyddi'n mynd i gysgu, ac yn codi yn y bore.

20. Ysgrifenna nhw ar ffrâm drws dy dŷ, ac ar giatiau'r dref.

21. Os gwnei di hynny byddi di a dy ddisgynyddion yn aros yn y wlad wnaeth yr ARGLWYDD ei haddo i dy hynafiaid am byth.

22. “Os gwnewch chi'n union fel dw i'n dweud, caru'r ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e eisiau i chi fyw ac aros yn ffyddlon iddo,

23. byddwch chi'n gyrru allan y bobloedd sydd o'ch blaenau chi, ac yn cymryd tir oddi ar genhedloedd mwy a chryfach na chi.

24. Byddwch chi'n cael pob modfedd sgwâr o dir fyddwch chi'n cerdded arno. Bydd eich ffiniau yn mynd o'r anialwch yn y de i Libanus yn y gogledd, ac o'r Afon Ewffrates yr holl ffordd at Fôr y Canoldir.

25. Fydd neb yn gallu'ch rhwystro chi. Fel gwnaeth e addo i chi, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud i chi godi ofn ar bawb, ble bynnag dych chi'n mynd.

26. “Gwrandwch yn ofalus – dw i'n rhoi dewis i chi, rhwng bendith a melltith.

27. Bendith gewch chi os byddwch chi'n ufudd i orchmynion yr ARGLWYDD.

28. Ond melltith gewch chi os byddwch chi'n cymryd dim sylw o'i orchmynion, troi cefn ar y ffordd dw i'n ei gosod o'ch blaen chi, ac addoli eilun-dduwiau dych chi'n gwybod dim amdanyn nhw.

29. Pan fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn mynd â chi i mewn i'r wlad dych chi i'w chymryd, rhaid i chi gyhoeddi'r fendith ar Fynydd Gerisim, a'r felltith ar Fynydd Ebal.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 11