Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 11:11-24 beibl.net 2015 (BNET)

11. Na, mae'r wlad dych chi'n croesi'r Afon Iorddonen i'w chymryd, yn wlad o fryniau a dyffrynnoedd, a'r tir yn cael ei ddyfrio gan y glaw sy'n disgyn o'r awyr.

12. Tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn gofalu amdano, o ddechrau'r flwyddyn i'w diwedd.

13. “Os gwnewch chi wrando'n ofalus ar y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw, a caru'r ARGLWYDD eich Duw â'ch holl galon ac â'ch holl enaid,

14. mae e'n addo ‘Bydda i'n anfon glaw ar y tir ar yr amser iawn, sef yn yr hydref a'r gwanwyn, er mwyn i chi gasglu'ch cnydau o ŷd a grawnwin ac olewydd.

15. Bydda i'n rhoi porfa i'ch anifeiliaid, a digonedd o fwyd i chi ei fwyta.’

16. “Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn troi cefn arno a dechrau addoli duwiau eraill!

17. Os gwnewch chi hynny bydd yr ARGLWYDD yn digio'n lân hefo chi, ac yn gwneud iddi stopio glawio. Fydd dim cnydau'n tyfu, a byddwch chi'n cael eich symud o'r tir da mae'r ARGLWYDD ar fin ei roi i chi.

18. “Felly dysga'r gorchmynion yma ar dy gof. Rhwyma nhw ar dy freichiau i dy atgoffa di, a gwisga nhw ar dy dalcen i'w cofio.

19. Dysga nhw'n gyson i dy blant, a'i trafod nhw pan fyddi adre yn y tŷ, ac i ffwrdd oddi cartref, pan fyddi'n mynd i gysgu, ac yn codi yn y bore.

20. Ysgrifenna nhw ar ffrâm drws dy dŷ, ac ar giatiau'r dref.

21. Os gwnei di hynny byddi di a dy ddisgynyddion yn aros yn y wlad wnaeth yr ARGLWYDD ei haddo i dy hynafiaid am byth.

22. “Os gwnewch chi'n union fel dw i'n dweud, caru'r ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e eisiau i chi fyw ac aros yn ffyddlon iddo,

23. byddwch chi'n gyrru allan y bobloedd sydd o'ch blaenau chi, ac yn cymryd tir oddi ar genhedloedd mwy a chryfach na chi.

24. Byddwch chi'n cael pob modfedd sgwâr o dir fyddwch chi'n cerdded arno. Bydd eich ffiniau yn mynd o'r anialwch yn y de i Libanus yn y gogledd, ac o'r Afon Ewffrates yr holl ffordd at Fôr y Canoldir.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 11