Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 11:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Rhaid i chi garu'r ARGLWYDD eich Duw, a gwneud beth mae e eisiau – cadw ei ganllawiau, ei reolau a'i orchmynion bob amser.

2. Cofiwch mai nid gyda'ch plant chi dw i'n siarad, ond gyda chi sydd wedi gweld yr ARGLWYDD yn cosbi. Dych chi wedi gweld mor fawr a chryf a nerthol ydy e.

3. Wnaeth eich plant ddim gweld y pethau ofnadwy wnaeth Duw i'r Pharo a'i bobl yn yr Aifft.

4. Wnaethon nhw ddim gweld beth wnaeth e i fyddin yr Aifft, a'u ceffylau a'u cerbydau. Gwnaeth i'r Môr Coch lifo drostyn nhw a'u boddi nhw pan oedden nhw'n ceisio'ch dal chi.

5. Wnaethon nhw ddim gweld beth wnaeth e i chi yn yr anialwch cyn i chi gyrraedd yma.

6. Gwnaeth yr ARGLWYDD i'r ddaear agor yng nghanol y gwersyll, a dyma Dathan ac Abiram (meibion Eliab o lwyth Reuben), a'u teuluoedd a'u pebyll a'u hanifeiliaid i gyd, yn cael eu llyncu gan y ddaear.

7. Gyda chi dw i'n siarad, am mai chi welodd yr pethau mawr yma wnaeth yr ARGLWYDD.

8. “Felly gwrandwch yn ofalus ar y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw. Wedyn byddwch chi'n gallu mynd i mewn a chymryd y tir

9. wnaeth yr ARGLWYDD ei addo i'ch hynafiaid chi. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo.

10. Dydy e ddim yr un fath â'r tir yn yr Aifft o'r lle daethoch chi. Yno roeddech chi'n hau yr had, ac yn gorfod gweithio'n galed i'w ddyfrio, fel gardd lysiau.

11. Na, mae'r wlad dych chi'n croesi'r Afon Iorddonen i'w chymryd, yn wlad o fryniau a dyffrynnoedd, a'r tir yn cael ei ddyfrio gan y glaw sy'n disgyn o'r awyr.

12. Tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn gofalu amdano, o ddechrau'r flwyddyn i'w diwedd.

13. “Os gwnewch chi wrando'n ofalus ar y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw, a caru'r ARGLWYDD eich Duw â'ch holl galon ac â'ch holl enaid,

14. mae e'n addo ‘Bydda i'n anfon glaw ar y tir ar yr amser iawn, sef yn yr hydref a'r gwanwyn, er mwyn i chi gasglu'ch cnydau o ŷd a grawnwin ac olewydd.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 11