Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 10:6-19 beibl.net 2015 (BNET)

6. “(Teithiodd pobl Israel o ffynhonnau Bene-iacân i Mosera. Dyna pryd fuodd Aaron farw, a chael ei gladdu, a dyma'i fab Eleasar yn dod yn offeiriad yn ei le.

7. Wedyn dyma nhw'n mynd ymlaen i Gwdgoda, ac yna i Iotbatha, lle roedd lot fawr o nentydd.

8. A dyna pryd wnaeth yr ARGLWYDD ddewis llwyth Lefi i gario Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i'w wasanaethu fel offeiriaid a bendithio'r bobl ar ei ran. Ac maen nhw'n dal i wneud hynny hyd heddiw.

9. A dyna pam nad oes gan lwyth Lefi dir, fel y llwythau eraill. Yr ARGLWYDD ei hun ydy eu siâr nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Lefi.)

10. “Dyma fi'n aros ar y mynydd fel y gwnes i y tro cyntaf, ddydd a nos am bedwar deg diwrnod. A dyma'r ARGLWYDD yn gwrando arno i eto, a penderfynu peidio'ch dinistrio chi.

11. Dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Dos, ac arwain y bobl yma i gymryd y tir wnes i ei addo i'w hynafiaid.’

12. “Nawr, bobl Israel, beth mae'r ARGLWYDD eich Duw eisiau i chi ei wneud? Mae e eisiau i chi ei barchu, byw fel mae e wedi gorchymyn i chi, ei garu, ei wasanaethu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid,

13. a chadw'r gorchmynion a'r arweiniad dw i'n eu pasio ymlaen i chi heddiw. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i chi.

14. Yr ARGLWYDD sydd piau popeth sy'n bodoli – y ddaear a'r cwbl sydd arni, a'r awyr, a hyd yn oed y nefoedd uchod.

15. Ac eto, eich hynafiaid chi wnaeth e eu caru, a chi, eu disgynyddion, wnaeth e eu dewis.

16. Felly newidiwch eich agwedd, a peidio bod mor benstiff!

17. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn fwy pwerus na'r duwiau eraill i gyd, ac yn Feistr ar bob meistr arall. Fe ydy'r Duw mawr, cryf a rhyfeddol, sy'n ddiduedd, a byth yn derbyn breib.

18. Mae e'n gwneud yn siŵr fod plant amddifad a gweddwon yn cael cyfiawnder, ac mae e'n caru'r mewnfudwyr, ac yn rhoi bwyd a dillad iddyn nhw.

19. Felly dylech chithau hefyd ddangos cariad at fewnfudwyr, achos pobl o'r tu allan oeddech chi yng ngwlad yr Aifft.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 10