Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 10:11-22 beibl.net 2015 (BNET)

11. Dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Dos, ac arwain y bobl yma i gymryd y tir wnes i ei addo i'w hynafiaid.’

12. “Nawr, bobl Israel, beth mae'r ARGLWYDD eich Duw eisiau i chi ei wneud? Mae e eisiau i chi ei barchu, byw fel mae e wedi gorchymyn i chi, ei garu, ei wasanaethu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid,

13. a chadw'r gorchmynion a'r arweiniad dw i'n eu pasio ymlaen i chi heddiw. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i chi.

14. Yr ARGLWYDD sydd piau popeth sy'n bodoli – y ddaear a'r cwbl sydd arni, a'r awyr, a hyd yn oed y nefoedd uchod.

15. Ac eto, eich hynafiaid chi wnaeth e eu caru, a chi, eu disgynyddion, wnaeth e eu dewis.

16. Felly newidiwch eich agwedd, a peidio bod mor benstiff!

17. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn fwy pwerus na'r duwiau eraill i gyd, ac yn Feistr ar bob meistr arall. Fe ydy'r Duw mawr, cryf a rhyfeddol, sy'n ddiduedd, a byth yn derbyn breib.

18. Mae e'n gwneud yn siŵr fod plant amddifad a gweddwon yn cael cyfiawnder, ac mae e'n caru'r mewnfudwyr, ac yn rhoi bwyd a dillad iddyn nhw.

19. Felly dylech chithau hefyd ddangos cariad at fewnfudwyr, achos pobl o'r tu allan oeddech chi yng ngwlad yr Aifft.

20. Rhaid i chi barchu'r ARGLWYDD eich Duw, ei wasanaethu, aros yn ffyddlon iddo, a defnyddio ei enw e'n unig i dyngu llw.

21. Fe ydy'r un i'w foli. Fe ydy'ch Duw chi, yr un dych chi wedi ei weld yn gwneud pethau rhyfeddol ar eich rhan chi.

22. Pan aeth eich hynafiaid i lawr i'r Aifft, dim ond saith deg ohonyn nhw oedd yna, ond bellach mae cymaint ohonoch chi ac sydd o sêr yn y nefoedd!

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 10