Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 1:4-15 beibl.net 2015 (BNET)

4. Digwyddodd hyn ar ôl iddo ennill y frwydr yn erbyn Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, oedd yn byw yn Ashtaroth ac Edrei.

5. Yr ochr draw i'r Afon Iorddonen, ar dir Moab, dyma Moses yn mynd ati i esbonio cyfarwyddiadau Duw iddyn nhw:

6. “Pan oedden ni wrth Fynydd Sinai, dyma'r ARGLWYDD ein Duw yn dweud wrthon ni, ‘Dych chi wedi aros wrth y mynydd yma ddigon hir.

7. Mae'n bryd i chi symud yn eich blaenau. Ewch i gyfeiriad bryniau'r Amoriaid, a'r ardaloedd cyfagos – dyffryn yr Iorddonen, y bryniau, yr iseldir i'r gorllewin, tir anial y Negef a'r arfordir – sef gwlad Canaan i gyd ac o Libanus yr holl ffordd i'r Afon Ewffrates fawr.

8. Mae'r tir yma i gyd i chi. Dyma'r tir wnes i addo ei roi i'ch hynafiaid chi – Abraham, Isaac a Jacob. Ewch, a'i gymryd drosodd.’

9. “Dyna'r adeg hefyd pan ddwedais wrthoch chi, ‘Alla i ddim gwneud hyn ar fy mhen fy hun – mae'n ormod o faich.

10. Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud i'ch niferoedd chi dyfu, a bellach mae yna gymaint ohonoch chi ag sydd o sêr yn yr awyr!

11. A boed i'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ddal ati i'ch lluosi chi fil gwaith drosodd eto, a'ch bendithio chi fel gwnaeth e addo gwneud!

12. Ond sut alla i ddelio gyda'ch holl broblemau chi, a godde'ch cwynion chi i gyd?

13. Dewiswch ddynion doeth, deallus, o bob llwyth, i mi eu comisiynu nhw'n arweinwyr arnoch chi.’

14. A dyma chi'n cytuno ei fod yn syniad da.

15. Felly dyma fi'n cymryd y dynion doeth, deallus yma, a'u gwneud nhw'n arweinwyr y llwythau – yn swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant, a deg o bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 1