Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 1:30-42 beibl.net 2015 (BNET)

30. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd o'ch blaenau chi! Bydd e'n ymladd drosoch chi, yn union fel y gwelsoch chi e'n gwneud yn yr Aifft!

31. Meddyliwch sut wnaeth e ofalu amdanoch chi yn yr anialwch! Mae wedi eich cario chi yr holl ffordd yma, fel mae dyn yn cario ei fab!’

32. “Ond doedd dim ots beth roeddwn i'n ddweud, roeddech chi'n dal i wrthod trystio'r ARGLWYDD eich Duw,

33. yr un oedd mynd o'ch blaen chi, ac yn dod o hyd i leoedd i chi godi gwersyll. Roedd yn eich arwain chi mewn colofn dân yn y nos a cholofn niwl yn y dydd, ac yn dangos i chi pa ffordd i fynd.

34. “Pan glywodd yr ARGLWYDD beth roeddech chi'n ei ddweud, roedd wedi digio go iawn hefo chi, a dyma fe'n addo ar lw:

35. ‘Fydd neb o'r genhedlaeth yma yn cael gweld y tir da wnes i addo ei roi i'ch hynafiaid chi!

36. Caleb fab Jeffwnne fydd yr unig eithriad. Bydd e'n cael mynd yno, a bydda i'n rhoi iddo fe a'i ddisgynyddion y tir y buodd e'n cerdded arno, am ei fod wedi bod yn gwbl ffyddlon i mi.’

37. “Ac roedd yr ARGLWYDD wedi digio hefo fi hefyd o'ch achos chi. Dwedodd, ‘Fyddi di ddim yn cael mynd yno chwaith.

38. Ond bydd Josua fab Nwn, dy was di, yn cael mynd. Dw i eisiau i ti ei annog e. Fe ydy'r un fydd yn arwain Israel i gymryd y tir.

39. Ond bydd y plant bach hefyd, y rhai oedd gynnoch chi ofn iddyn nhw gael eu dal, yn cael mynd – y rhai sy'n rhy ifanc eto i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Bydda i'n rhoi'r tir iddyn nhw, a nhw fydd piau e.

40. Ond nawr rhaid i chi droi'n ôl, a mynd drwy'r anialwch yn ôl i gyfeiriad y Môr Coch.’

41. “Roeddech chi'n cyfaddef eich bod ar fai wedyn, a dyma chi'n dweud, ‘Dŷn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. Gwnawn ni fynd i ymladd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthon ni.’“A dyma chi i gyd yn gwisgo'ch arfau, yn barod i fynd i ymladd yn y bryniau.

42. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Dywed wrthyn nhw am beidio mynd i ymladd. Dw i ddim gyda nhw. Byddan nhw'n cael eu curo gan eu gelynion.’

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 1