Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 1:25-45 beibl.net 2015 (BNET)

25. dyma nhw'n dod yn ôl gyda peth o gynnyrch y tir. Roedden nhw'n dweud, ‘Mae'r tir mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei roi i ni yn dir da!’

26. “Ond dyma chi'n gwrthod mynd yn eich blaenau. Yn lle hynny dyma chi'n gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD,

27. aros yn eich pebyll, a dechrau cwyno ymhlith eich gilydd, a dweud pethau fel, ‘Daeth yr ARGLWYDD a ni allan o'r Aifft am ei fod yn ein casáu ni, ac er mwyn i ni gael ein lladd gan yr Amoriaid!

28. I ble awn ni? Mae'r dynion aeth i chwilio'r tir wedi'n gwneud ni'n hollol ddigalon wrth sôn am bobl sy'n dalach ac yn gryfach na ni. Mae waliau amddiffynnol eu trefi nhw yn codi'n uchel i'r awyr. Ac yn waeth na hynny maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi gweld cewri yno – disgynyddion Anac.’

29. “Gwnes i drïo dweud wrthoch chi, ‘Does dim rhaid i chi fod ag ofn!

30. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd o'ch blaenau chi! Bydd e'n ymladd drosoch chi, yn union fel y gwelsoch chi e'n gwneud yn yr Aifft!

31. Meddyliwch sut wnaeth e ofalu amdanoch chi yn yr anialwch! Mae wedi eich cario chi yr holl ffordd yma, fel mae dyn yn cario ei fab!’

32. “Ond doedd dim ots beth roeddwn i'n ddweud, roeddech chi'n dal i wrthod trystio'r ARGLWYDD eich Duw,

33. yr un oedd mynd o'ch blaen chi, ac yn dod o hyd i leoedd i chi godi gwersyll. Roedd yn eich arwain chi mewn colofn dân yn y nos a cholofn niwl yn y dydd, ac yn dangos i chi pa ffordd i fynd.

34. “Pan glywodd yr ARGLWYDD beth roeddech chi'n ei ddweud, roedd wedi digio go iawn hefo chi, a dyma fe'n addo ar lw:

35. ‘Fydd neb o'r genhedlaeth yma yn cael gweld y tir da wnes i addo ei roi i'ch hynafiaid chi!

36. Caleb fab Jeffwnne fydd yr unig eithriad. Bydd e'n cael mynd yno, a bydda i'n rhoi iddo fe a'i ddisgynyddion y tir y buodd e'n cerdded arno, am ei fod wedi bod yn gwbl ffyddlon i mi.’

37. “Ac roedd yr ARGLWYDD wedi digio hefo fi hefyd o'ch achos chi. Dwedodd, ‘Fyddi di ddim yn cael mynd yno chwaith.

38. Ond bydd Josua fab Nwn, dy was di, yn cael mynd. Dw i eisiau i ti ei annog e. Fe ydy'r un fydd yn arwain Israel i gymryd y tir.

39. Ond bydd y plant bach hefyd, y rhai oedd gynnoch chi ofn iddyn nhw gael eu dal, yn cael mynd – y rhai sy'n rhy ifanc eto i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Bydda i'n rhoi'r tir iddyn nhw, a nhw fydd piau e.

40. Ond nawr rhaid i chi droi'n ôl, a mynd drwy'r anialwch yn ôl i gyfeiriad y Môr Coch.’

41. “Roeddech chi'n cyfaddef eich bod ar fai wedyn, a dyma chi'n dweud, ‘Dŷn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. Gwnawn ni fynd i ymladd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthon ni.’“A dyma chi i gyd yn gwisgo'ch arfau, yn barod i fynd i ymladd yn y bryniau.

42. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Dywed wrthyn nhw am beidio mynd i ymladd. Dw i ddim gyda nhw. Byddan nhw'n cael eu curo gan eu gelynion.’

43. “Dyma fi'n dweud wrthoch chi, ond roeddech chi'n gwrthod gwrando. Dyma chi'n gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD eto. I ffwrdd â chi, yn llawn ohonoch chi'ch hunain.

44. Dyma'r Amoriaid oedd yn byw yno yn dod allan i ymladd gyda chi fel haid o wenyn, a'ch gyrru chi i ffwrdd! Dyma nhw'n eich taro chi i lawr yr holl ffordd i dir Seir i dref Horma.

45. Pan gyrhaeddoch chi yn ôl, dyma chi'n mynd i ofyn i'r ARGLWYDD am help, ond wnaeth e gymryd dim sylw ohonoch chi.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 1