Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 1:12-28 beibl.net 2015 (BNET)

12. Ond sut alla i ddelio gyda'ch holl broblemau chi, a godde'ch cwynion chi i gyd?

13. Dewiswch ddynion doeth, deallus, o bob llwyth, i mi eu comisiynu nhw'n arweinwyr arnoch chi.’

14. A dyma chi'n cytuno ei fod yn syniad da.

15. Felly dyma fi'n cymryd y dynion doeth, deallus yma, a'u gwneud nhw'n arweinwyr y llwythau – yn swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant, a deg o bobl.

16. “Cafodd rhai eraill eu penodi'n farnwyr, a dyma fi'n eu siarsio nhw i gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif, a delio'n deg gyda'r achosion fyddai'n codi rhwng pobl – nid yn unig rhwng pobl Israel a'i gilydd, ond rhwng pobl Israel a'r rhai o'r tu allan oedd yn byw gyda nhw hefyd.

17. Dwedais wrthyn nhw am beidio dangos ffafriaeth wrth farnu achos, ond gwrando ar bawb, beth bynnag fo'i statws. A ddylen nhw ddim ofni pobl. Duw sy'n gwneud y barnu. Ac os oedd achos yn rhy gymhleth iddyn nhw, gallen nhw ofyn i mi ddelio gydag e.

18. “Roeddwn i wedi dweud wrthoch chi am bopeth roedd disgwyl i chi ei wneud.

19. “Yna, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i ni, dyma ni'n gadael Mynydd Sinai, a dechrau teithio drwy'r anialwch mawr peryglus yna, i gyfeiriad bryniau'r Amoriaid. A dyma ni'n cyrraedd Cadesh-barnea.

20. Ac yno dyma fi'n dweud wrthoch chi, ‘Dŷn ni wedi cyrraedd y bryniau ble mae'r Amoriaid yn byw. Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi'r tir yma i ni nawr.

21. Edrychwch, mae'r tir yna i chi ei gymryd. Ewch, a'i gymryd, fel mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi dweud wrthoch chi. Peidiwch bod ag ofn na panicio.’

22. “Ond dyma chi'n dod ata i a dweud, ‘Beth am anfon dynion i edrych dros y wlad gyntaf. Gallen nhw awgrymu pa ffordd fyddai orau i fynd, a rhoi gwybodaeth i ni am y trefi sydd yno.’

23. “Roeddwn i'n meddwl ei fod yn syniad da, felly dyma fi'n anfon un deg dau o ddynion o'n blaenau ni, un o bob llwyth.

24. Dyma nhw'n mynd drosodd i'r bryniau, a cyrraedd Wadi Eshcol. Ar ôl edrych dros y wlad,

25. dyma nhw'n dod yn ôl gyda peth o gynnyrch y tir. Roedden nhw'n dweud, ‘Mae'r tir mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei roi i ni yn dir da!’

26. “Ond dyma chi'n gwrthod mynd yn eich blaenau. Yn lle hynny dyma chi'n gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD,

27. aros yn eich pebyll, a dechrau cwyno ymhlith eich gilydd, a dweud pethau fel, ‘Daeth yr ARGLWYDD a ni allan o'r Aifft am ei fod yn ein casáu ni, ac er mwyn i ni gael ein lladd gan yr Amoriaid!

28. I ble awn ni? Mae'r dynion aeth i chwilio'r tir wedi'n gwneud ni'n hollol ddigalon wrth sôn am bobl sy'n dalach ac yn gryfach na ni. Mae waliau amddiffynnol eu trefi nhw yn codi'n uchel i'r awyr. Ac yn waeth na hynny maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi gweld cewri yno – disgynyddion Anac.’

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 1