Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 1:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma beth ddwedodd Moses wrth bobl Israel i gyd pan oedden nhw yn yr anialwch yr ochr draw i Afon Iorddonen – yn y rhan o'r Araba sydd gyferbyn â Swff, rhwng Paran a Toffel, Laban, Chatseroth a Di-sahab.

2. Fel arfer mae'n cymryd un deg un diwrnod i deithio o Fynydd Sinai i Cadesh-barnea ar draws bryniau Seir.

3. Ond roedd pedwar deg mlynedd wedi mynd heibio. Roedd hi'r diwrnod cyntaf o fis un deg un y flwyddyn honno pan wnaeth Moses annerch pobl Israel, a dweud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn iddo.

4. Digwyddodd hyn ar ôl iddo ennill y frwydr yn erbyn Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, oedd yn byw yn Ashtaroth ac Edrei.

5. Yr ochr draw i'r Afon Iorddonen, ar dir Moab, dyma Moses yn mynd ati i esbonio cyfarwyddiadau Duw iddyn nhw:

6. “Pan oedden ni wrth Fynydd Sinai, dyma'r ARGLWYDD ein Duw yn dweud wrthon ni, ‘Dych chi wedi aros wrth y mynydd yma ddigon hir.

7. Mae'n bryd i chi symud yn eich blaenau. Ewch i gyfeiriad bryniau'r Amoriaid, a'r ardaloedd cyfagos – dyffryn yr Iorddonen, y bryniau, yr iseldir i'r gorllewin, tir anial y Negef a'r arfordir – sef gwlad Canaan i gyd ac o Libanus yr holl ffordd i'r Afon Ewffrates fawr.

8. Mae'r tir yma i gyd i chi. Dyma'r tir wnes i addo ei roi i'ch hynafiaid chi – Abraham, Isaac a Jacob. Ewch, a'i gymryd drosodd.’

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 1