Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 1:10-21 beibl.net 2015 (BNET)

10. ond meddai wrtho, “Mae fy meistr y brenin wedi dweud beth ydych chi i'w fwyta a'i yfed. Mae arna i ofn beth fyddai'n wneud petaech chi'n edrych yn fwy gwelw a gwan na'r bechgyn eraill yr un oed â chi. Byddech chi'n rhoi fy mywyd i ar y lein!”

11. Ond wedyn dyma Daniel yn siarad â'r swyddog oedd wedi cael ei benodi i ofalu amdano fe, Hananeia, Mishael ac Asareia.

12. “Pam wnei di ddim profi ni am ddeg diwrnod? Gad i ni fwyta dim ond llysiau a dŵr,

13. ac wedyn cei di weld sut fyddwn ni'n cymharu gyda'r bechgyn eraill sy'n bwyta'r bwyd brenhinol. Cei benderfynu gwneud beth bynnag wyt ti eisiau wedyn.”

14. Felly dyma'r gwas oedd yn gofalu amdanyn nhw yn cytuno, ac yn eu profi nhw am ddeg diwrnod.

15. Ar ddiwedd y deg diwrnod roedd Daniel a'i ffrindiau yn edrych yn well ac yn iachach na'r bechgyn eraill i gyd, er bod y rheiny wedi bod yn bwyta'r bwydydd gorau o gegin y palas.

16. Felly dyma'r gwas oedd yn gofalu amdanyn nhw yn dal ati i roi llysiau iddyn nhw yn lle'r bwydydd cyfoethog a'r gwin roedden nhw i fod i'w gael.

17. Rhoddodd Duw allu anarferol i'r pedwar ohonyn nhw i ddysgu am lenyddiaeth a phopeth arall. Roedd gan Daniel yn arbennig y ddawn i ddehongli gweledigaethau a breuddwydion.

18. Ar ddiwedd y cyfnod o hyfforddiant dyma'r prif swyddog yn mynd â nhw o flaen y brenin Nebwchadnesar.

19. Dyma'r brenin yn eu cyfweld nhw, a doedd dim un ohonyn nhw cystal â Daniel, Hananeia, Mishael ac Asareia. Felly dyma'r pedwar ohonyn nhw'n cael eu penodi i weithio i'r brenin.

20. Beth bynnag oedd y brenin yn eu holi nhw amdano, roedd eu gwybodaeth a'i cyngor doeth nhw ddeg gwaith gwell nag unrhyw ddewin neu swynwr doeth drwy'r Ymerodraeth gyfan.

21. Roedd Daniel yn dal yno y flwyddyn y daeth Cyrus yn frenin.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 1