4. F'anwylyd, rwyt ti'n hardd fel dinas Tirtsa,ac mor hyfryd â Jerwsalem.Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol!
5. Paid edrych arna i –mae dy lygaid yn fy aflonyddu!Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifryn dod i lawr o fynydd Gilead.
6. Mae dy ddannedd yn wynfel rhes o ddefaid newydd eu golchi.Maen nhw i gyd yn berffaith;does dim un ar goll.
7. Tu ôl i'r fêl mae dy fochaua'u gwrid fel pomgranadau.
8. Gallwn gael chwe deg brenhines,wyth deg o bartneriaid,a merched ifanc di-rif!
9. Ond mae hi'n unigryw,fy ngholomen berffaith.Merch arbennig ei mam;hoff un yr un â'i cenhedlodd.Mae pob merch ifanc sy'n ei gweldyn ei hedmygu;Mae pob brenhines a chariadyn canu am ei harddwch:
10. “Pwy ydy hon sy'n codi fel y wawr?Pwy ydy hi? – mor hardd â'r lleuad llawn,mor bur â phelydrau'r haul.Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol!”
11. Es i lawr i'r berllan lle mae'r coed cnau,i weld y tyfiant yn y dyffryn;i weld a oedd y winwydden wedi blaguro,a'r pomgranadau'n blodeuo.